Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyllideb Refeniw Cronfar Cyngor
Published: 12/01/2017
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried camau terfynol sefydlu cyllideb
refeniw 2017/18 pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 17 Ionawr.
Drwy gydol y broses gyllidebu, mae’r Cyngor wedi ceisio diogelu gwasanaethau
‘rheng flaen’, cyfleusterau cymunedol a chyllid ar gyfer ysgolion a Gofal
Cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Mae’n bleser gennym gyhoeddi, o ganlyniad i gynllunio ariannol arloesol ac
effeithiol, na fydd unrhyw fygythiadau pellach i wasanaethau’r Cyngor yn
2017/18. Mae hyn er gwaethaf gorfod bodloni effaith y pwysau cynyddol o’r galw
cynyddol ar wasanaethau, yn enwedig gofal cymdeithasol, a chyfyngiadau ar
wariant sector cyhoeddus ledled y DU.”
Er bod ‘bwlch’ cyllid o £1.9m yn parhau i fod i’w ganfod, mae’r Cyngor yn
benderfynol yn ei nod o ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, yn enwedig ein
huchelgais i gynyddu cyllid i ysgolion cymaint â £1.2m y flwyddyn nesaf. Ond
mae dewisiadau cyfyngedig ar gael i ni i gyflawni hyn, ac eithrio drwy
drethiant lleol, defnyddio ein cronfeydd wrth gefn dros dro a chymryd risgiau
ar reoli pwysau costau fel cyflogau a chwyddiant.
Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton: “Byddwn yn parhau i bwysleisio bod angen
diwygio’r fformwla cyllido ar gyfer llywodraeth leol. Ni all Sir y Fflint
barhau fel cyngor â chyllid isel, gan dderbyn £17.5m yn llai y flwyddyn na’r
grant cyfartalog ar gyfer cynghorau Cymru, yn seiliedig ar faint poblogaeth
cymharol.”