Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyngor yn derbyn gwobr y Lluoedd Arfog
Published: 19/01/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn gwobr efydd y Cynllun Cydnabod Cyflogwr
Amddiffyn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwr yn annog cyflogwyr i gefnogi amddiffyniad ac
mae’n ysbrydoli eraill i wneud hynny hefyd. Mae yna dair lefel – efydd, arian
ac aur.
Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y
Fflint
“Mae Sir y Fflint wedi ymrwymo i’r wobr lefel efydd sy’n dangos ein bod yn
cefnogi’r lluoedd arfog ac yn barod i gyflogi milwyr wrth gefn, cyn-filwyr y
lluoedd arfog, hyfforddwyr cadetiaid a phartneriaid personél milwrol. Rwy’n
falch iawn i Gefnogi’r Lluoedd Arfog yn Sir y Fflint ac mae’r wobr hon yn ategu
at Gyfamod y Lluoedd Arfog gan y Cyngor eisoes.”
Mae’r Cyfamod yn ddatganiad gwirfoddol o gydgefnogaeth rhwng cymunedau sifil
a’u cymuned Lluoedd Arfog lleol.
Mae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwr wedi’i ddylunio’n bennaf i gydnabod cefnogaeth
y sector preifat er bod sefydliadau cyhoeddus fel awdurdodau lleol hefyd yn
gymwys i gael eu cydnabod.