Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Cludiant Cymunedol
Published: 25/01/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda Chyngor Cymunedol Higher Kinnerton i
ddarparu gwasanaeth cludiant cymunedol cynaliadwy ar gyfer yr ardal. Bydd y
gwasanaeth newydd yn cael ei lansio ar 1 Chwefror 2017 fel rhan o Brosiect
Teithio Cymunedol Sir y Fflint.
Nod y digwyddiad yw hyrwyddo’r cynllun peilot ar gyfer teithio cymunedol yn
Higher Kinnerton a diolch i’r gymuned am gefnogi’r prosiect hyd yma.
Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiad ond gwahoddir darpar ddefnyddwyr
gwasanaeth yn benodol er mwyn iddyn nhw ganfod mwy am y gwasanaethau Tacsibws a
Rhannu Tacsi newydd.
Bydd y gwasanaeth Tacsibws yn dechrau ar 6 Chwefror 2017 a bydd ganddo lwybr ac
amserlen benodol i alluogi trigolion Higher Kinnerton i gyrraedd gwasanaethau
allweddol ym Mrychdyn.
Bydd y gwasanaeth Rhannu Tacsi yn wasanaeth “ffonio a theithio” ar gyfer pobl
sy’n methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus arferol yn ne ddwyrain Sir
y Fflint. Bydd y gwasanaeth Rhannu Tacsi yn galluogi pobl i fynychu apwyntiadau
iechyd/meddygol neu gysylltu â’r gwasanaeth Tacsibws yn Higher Kinnerton.
Mae paratoadau ar gyfer cynlluniau tebyg mewn wyth ardal arall yn y sir ac mae
ardaloedd Llaneurgain, Cei Connah, Penymynydd, Penyffordd, Bwcle, Treuddyn,
Llanfynydd a Threffynnon yn gweithio gyda’r Cyngor i ddatblygu cynlluniau
cludiant cymunedol, a bydd y llwybrau a’r amserlenni yn cael eu cadarnhau yn
ystod yr wythnosau nesaf.
Diolchodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Bernie Attridge, y gymuned leol
am gefnogi’r fenter ac ychwanegodd:
“Dyma gyfle gwych i’r gymuned gymryd rhan a chefnogi datblygiad cynlluniau
cludiant cymunedol y Cyngor. Bydd cynlluniau teithio cymunedol, fel y cynllun
peilot newydd yma yn Higher Kinnerton, yn chwarae rhan fwyfwy pwysig wrth
ddarparu cludiant i gymunedau lleol. Mae Sir y Fflint wedi ymrwymo i gefnogi
cludiant sy’n gymdeithasol angenrheidiol, ond y gwir amdani yw nad ydym ni mewn
sefyllfa i gynnig yr un lefelau o gymorthdaliadau bws a llenwi’r bylchau a
gafwyd ar ôl i rai gwasanaethau bws masnachol ddod i ben.”
Er bod y sefyllfa ariannol sydd ohoni yn golygu y bydd lefel y cymorthdaliadau
yn lleihau dros y tair blynedd nesaf, mae Cyngor Sir y Fflint wedi penderfynu
peidio â chael gwared ar y cymorthdaliadau cludiant yn gyfan gwbl. Yn hytrach,
bydd yn buddsoddi i amnewid y gwasanaethau presennol a rhoi trefniadau
“cludiant cymunedol” cynaliadwy a lleol ar waith.
Ychwanegodd y Cyng. Attridge:
“Mae arnom ni eisiau gweithio mewn partneriaeth â chymunedau i ddatblygu
atebion arloesol a chynaliadwy i gau rhywfaint o’r bylchau. Mae mynediad i
wasanaethau allweddol yn hanfodol i sicrhau nad yw pobl ddiamddiffyn mewn
cymunedau gwledig yn cael eu cau allan. Maer Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i
gymunedau gwledig drwy gyflwynor cynlluniau yma a rwan tror cymunedau yw hi i
ddangos eu hymrwymiad drwy ddefnyddio’r gwasanaeth lle bynnag y bo modd i
sicrhau eu bod yn dod yn gynaliadwy i’r dyfodol.
Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau peilot, ewch i:
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Community-Transport-in-Flin
tshire.aspx