Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Enghraifft ddisglair o’r oes ddigidol
Published: 26/01/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch iawn bod Ysgol Gynradd Parc Cornist wedii
dewis fel enghraifft ddisglair o sut y gall technoleg ddigidol wella bywyd
ysgol, yn dilyn Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Estyn a gyhoeddwyd yn
ddiweddar.
Cafodd yr ysgol yn Fflint ei dewis fel un o ysgolion “arloeswyr digidol”
Llywodraeth Cymru yn 2015 ac ers hynny, mae wedi gwella cymhwysedd digidol
disgyblion, staff, rheini, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach wrth gynnwys
technoleg ddigidol ym mywyd yr ysgol.
Dywedodd y Pennaeth, Nicola Thomas:
“Ers cael ein dewis fel un o’r ysgolion arloeswyr digidol, rydym wir wedi mynd
ir afael âr her i ymgysylltun llwyr âr oes ddigidol. I mi, mae’n wych
gweld y plant yn cyfranogi ac yn frwdfrydig dros yr hyn maent yn ei wneud, i
gael meddwl agored i chwilio am ffyrdd eraill o ateb cwestiynau, i gofnodi beth
maent wedii ddysgu ai ddefnyddio mewn ffyrdd gwahanol i ymchwilio iw dysgu.
Mae’r ystafell ddosbarth bellach yn fyd-eang – nid ywn dod o lyfr neu geg yr
athron unig.
Mae’r ysgol wedi mynd â thechnoleg ddigidol i lefel newydd. Un o nodau
allweddol yr ysgol yw galluogi disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a’r
gymuned ehangach i gysylltu, cydweithio a chyfathrebu ar-lein mewn dull
cyfrifol a diogel. Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn codi ymwybyddiaeth o
eDdiogelwch” a dysgu digidol ymhlith cymuned eu hysgol, yn ogystal ag ysgolion
eraill ar draws y Sir. Maent hyd yn oed wedi cynnal sesiwn galw heibio mewn
banc lleol i helpu cwsmeriaid ddysgu am fod yn ddiogel ar-lein.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor
Sir y Fflint:
“Mae clywed bod un o ysgolion ein Sir wedi’i dewis fel enghraifft o arfer da ar
gyfer gweddill Cymru’n fy ngwneud yn falch iawn. Maer staff a’r disgyblion ym
Mharc Cornist wir wedi mynd i’r afael â’r her hon i ddatblygu technoleg a dysgu
digidol – rydw i hyd yn oed wedi clywed un aelod o staff yn disgrifio’r offer
fel “cas pensiliau digidol”, gyda’r dechnoleg bob amser yn yr ystafell
ddosbarth i helpu gyda llythrennedd, rhifedd a meysydd eraill o’r cwricwlwm.”
Mae modd gweld astudiaeth achos lawn o Barc Cornist ar-lein ar
https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-orau/technoleg-ddigidol-ym-mywyd-ysgol-gynrad
d?_ga=1.136083633.1854803201.1483023630