Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn diogelu gwasanaethau rheng flaen am flwyddyn arall
Published: 10/02/2017
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod dydd Mawrth nesaf i gwblhau ei gyllideb
flynyddol ar gyfer 2017/18.
Roedd cyfanswm y targed o arbedion i’r Cyngor ei gyflawni yn 2017/18 wedi bod
yn £12.5m yn dilyn cyhoeddi ‘setliad’ drafft Llywodraeth Cymru, neu’r gyllideb
ar gyfer llywodraeth leol, a chyn gwyliau’r Nadolig.
Mae’r Cyngor wedi bod yn cymeradwyo ei gyllideb flynyddol mewn camaun arwain
at gyfarfod pennur gyllideb derfynol yr wythnos nesaf. Y cam cyntaf oedd
cymeradwyo cynigion y gyllideb ar gyfer gwasanaethau ganol Tachwedd, gan ddilyn
ag ail gam o gymeradwyor opsiynau cyllido corfforaethol ddechrau Rhagfyr.
Ar ddiwedd y ddau gyfnod hyn, maer Cyngor wedi cymeradwyo cyfanswm cynyddol o
arbedion o £10.4m – gyda bwlch sy’n weddill o £1.997m eto iw ganfod i gyrraedd
ei darged.
Mae Sir y Fflint wedi bod yn brysur yn ymgyrchu am fwy o fuddsoddiad mewn Gofal
Cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru, ar ôl lobio, wedi cyhoeddi bod cyllid
ychwanegol o £10m i gefnogi costau cynyddol gofal cartref ar draws Cymru. Mae
Sir y Fflint yn disgwyl cael tua £0.430m. Mae Llywodraeth Cymru, wrth ffurfio
ei gyllidebau ar gyfer 2017/18, wedi cadarnhau’n ddiweddar bod y terfyn capiau
codi tâl ar ofal cartref yn mynd i godi o £60 i £70 yr wythnos o 1 Ebrill 2017.
I Sir y Fflint, bydd hyn yn golygu y gallwn adennill incwm blynyddol ychwanegol
o £0.238m gan gleientiaid lle gallant fforddio talu.
Gyda’r incwm cyfun o godi tâl am ofal cartref a’r gyfran o’r grant newydd,
mae’r bwlch i’w ganfod syn weddill wedi lleihau o £0.668m i £1.329m.
Fodd bynnag, mae’r Cyngor yna wedi gorfod codi’r ardoll flynyddol a godir gan
Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ar ei gyllideb darged. Bydd Sir y Fflint yn
gorfod ateb cynnydd blynyddol yn ei gyfraniad at Dân ac Achub o £0.317m –
cynnydd o 4.52%.
Gan ystyried y pwysau o ran y gost hon, mae’r bwlch sy’n weddill yn y gyllideb
yn £1.646m. Mae’r Cyngor yn gorfod cytuno sut i gau’r bwlch hwn ddydd Mawrth.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
“Gyda phwysau ar gyllidebau llywodraeth leol yn cynyddu flwyddyn ar flwyddyn,
maer Cyngor wedi gorfod wynebu her ddigynsail i barhau ân nod i ddiogelu
gwasanaethau rheng flaen, wrth geisio darparu cyllideb gytbwys hefyd, yr ydym
yn gorfod ei wneud oherwydd dyletswydd gyfreithiol.
“Er gwaethaf yr her gyllidol, rwy’n falch ein bod yn cynnig cynyddu cyllid
ysgolion o £1.2m. Bydd cyllidebau gofal cymdeithasol yn cael eu diogelu a’u
cynyddu o £3.265m i ateb yr her ddwbl or cynnydd yn y galw am wasanaethau,
ar pwysau chwyddiannol y mae darparwyr gofal yn eu hwynebu i barhau i ddarparu
gwasanaethau gofal hanfodol ar draws ein Sir.”
Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:
“Am flwyddyn arall, rydym wedi llwyddo i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus
allweddol, ac wedi osgoi gwneud cynnydd mawr yn y taliadau ar gyfer rhai
gwasanaethau.
“Rydym wedi gweithio drwy bob un opsiwn cyllideb sydd gennym, a dim ond dau
ddewis sydd ar ôl i’r Cyngor fantoli’r gyllideb - Treth y Cyngor a thynnu ar
gronfeydd wrth gefn a balansau. Rydym yn ceisio cyfyngu ar y cynnydd yn Nhreth
y Cyngor i tua 3%. Gellid ond defnyddio cronfeydd wrth gefn a balansau unwaith,
a byddai angen gwneud iawn am hyn yn y dyfodol. Dim ond ‘plastr dros dro ydyw
ar y gyllideb, ac wrth i ni ddefnyddio ein cronfeydd wrth gefn dros y
blynyddoedd diweddar, maent wedi lleihau.