Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cartrefi Newydd yn Northop Hall
Published: 28/02/2017
Mae cwmni rheoli eiddo Cyngor Sir y Fflint, Tai Gogledd Ddwyrain Cymru (NEW
Homes), wedi meddu ar dri chartref newydd sbon arall yn ddiweddar i helpu i roi
hwb i nifer y tai fforddiadwy sydd ar osod yn y Sir.
Maer cartrefi newydd ar ddatblygiad tai newydd Anwyl yn Northop Hall.
Wedii gynllunio i ymateb ir heriau a brofir gan drigolion wrth gael mynediad
at dai fforddiadwy, mae NEW Homes wedi’i sefydlu gan y Cyngor i gynyddur
dewisiadau tai sydd ar gael i drigolion lleol. Maen cynnig nifer o wasanaethau
rheoli tai wedi’u teilwra a’u cynllunio i gynyddu nifer ac ansawdd y tai yn y
sir.
Maer eiddo wedi’u trosglwyddo i NEW Homes fel rhan o rwymedigaethau tai
fforddiadwy datblygwyr datblygiadau preifat. Mae hyn yn sicrhau bod
datblygiadau newydd yn diwallu anghenion pobl leol o ran tai fforddiadwy.
Roedd y tenantiaid newydd yn falch iawn o fod yn gallu symud i mewn ar yr un
diwrnod y cafodd y cartrefi eu trosglwyddo i NEW Homes.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Chadeirydd Bwrdd NEW Homes, y
Cynghorydd Bernie Attridge, sydd wedi ymweld â nifer o’r tenantiaid newydd i’w
croesawu i’w cartrefi newydd:
“Mae NEW Homes wedi’i sefydlu yn benodol i gwrdd âr angen am dai fforddiadwy
yn ein cymunedau lleol ac mae rhoi’r tai hyn fel rhan o ganiatâd cynllunio’r
datblygwr yn helpu i gyflawni hyn. Rwyf yn falch o groesawu’r tenantiaid newydd
i’w cartrefi newydd ac maen braf gweld teuluoedd yn ailgychwyn byw.”
Meddai Mathew Anwyl, Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Anwyl: “Rydym ni’n falch o
fod yn rhan o ymgyrch tai fforddiadwy NEW Homes yn Sir y Fflint drwy ddarparu
tair uned fforddiadwy yn Northop Hall. Mae darparu tai newydd fforddiadwy o
ansawdd uchel er budd y gymuned leol yn bwysig ac rydym ni’n falch bod NEW
Homes eisoes wedi croesawu eu tenantiaid cyntaf.”
PENNAWD: Y Cynghorydd Tony Sharps, cynghorydd lleol Northop Hall, yn cyflwyno
blodau i denant hapus i’w chroesawu iw chartref newydd.