Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgwyd Shakespeare

Published: 28/02/2017

Bydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir y Fflint yn rhedeg gweithdy ar Shakespeare yn ystod Wythnos Shakespeare, 20-25 Mawrth 2017. Daw’r gweithdy llawn hwyl hwn yn ôl i’r Sir y Fflint yn dilyn ei lwyddiant yn y gorffennol ac mae’n addas ar gyfer unrhyw un 16 oed a throsodd. Nod y gweithdy a fydd yn cael ei arwain gan Janys Chambers, awdur a chyfarwyddwr a enwebwyd ar gyfer BAFTA, yw gwneud Shakespeare yn fwy dealladwy i bawb. Ydych chi’n pendroni o gwbl ... beth yw’r holl ffwdan ynglyn â Shakespeare? Neu ... beth yn union ywr mesur moel? Dyma eich cyfle chi i ddarganfod. Bydd y gweithdy 3 awr yn cyffwrdd ar ddirgelon difyr bywyd Shakespeare a sut bethau mewn gwirionedd oedd theatrau’r cyfnod Elisabethaidd. Pris: £5.00 a rhaid cadw lle. Dyddiadau ac amseroedd fel a ganlyn: Dydd Mercher 22 Mawrth 9:30 – 12:30 – Gweithdy i ddechreuwyr, Llyfrgell Brychdyn (01244 533727) 1:30-4:30 – Llyrfgell Bwcle (01244 549210) Dydd Iau 23 Mawrth 10:00 – 1:00 – Llyfrgell Cei Connah (01352 703730) 3:30-6:30 – Llyfrgell Y Fflint (01352 703737) Dydd Gwener 24 Mawrth 10:00 -1:00 – Llyfrgell Treffynnon (01352 703850) 3:00-6:00 – Llyfrgell Glannau Dyfrdwy (01352 703770) Dydd Sadwrn 25 Mawrth 10:00-1:00 – Llyfrgell Yr Wyddgrug 01352 754791 www.flintshire.gov.uk http://www.facebook.com/Flintshire-Libraries-Llyfrgelloedd-Sir-y-Fflint