Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Strategaeth Gwasanaethau Cwsmer
Published: 10/03/2017
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint fabwysiadu Strategaeth Gwasanaeth
Cwsmer newydd pan fydd yn cyfarfod nesaf ar 14 Mawrth.
Maer strategaeth hon wedii halinio gydar Strategaeth Ddigidol a gymeradwywyd
yng nghyfarfod y Cabinet fis diwethaf ac yn ymdrin â sut y bydd y Cyngor yn
darparu gwasanaethau iw gwsmeriaid mewn modd cyfoes ac effeithlon.
Maer strategaeth wedii strwythuro o amgylch y tair ffrwd waith ganlynol:
1. Wyneb yn wyneb - a ddarperir drwy Ganolfannau Cyswllt y Cyngor ar draws y
Sir
2. Dros y ffôn – cyfle i ddatblygu gwaith y ganolfan gyswllt a fydd yn gwneud
defnydd effeithlon o adnoddau staff ac yn ceisio datrys ymholiadau cwsmeriaid
yn effeithiol ar y pwynt cyswllt cyntaf.
3. Digidol – gall cyflwyno gwasanaethau digidol arbed arian, gwella hygyrchedd
gwasanaethau ar gyfer mwyafrif y preswylwyr a rhyddhau adnoddau i gefnogir
cwsmeriaid mwyaf diamddiffyn.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol
Cyngor Sir y Fflint:
Maen rhaid i ddarpariaeth gwasanaeth y Cyngor yn y dyfodol ganolbwyntio ar
symleiddior modd y mae cwsmeriaid yn derbyn gwasanaethau, deall eu taith
gydar Cyngor, rhoi rheolaeth i gwsmeriaid o ran y gwasanaethau y maent yn eu
defnyddio, gwrando ac ymateb i adborth. Bydd gwasanaethau y gellir eu
darparun ddigidol yn cael eu datblygu, er mwyn gallu canolbwyntior adnoddau
drud ar y gwasanaethau na ellir eu darparun ddigidol i gefnogir cwsmeriaid
mwyaf diamddiffyn.
Maer Strategaeth Gwasanaeth Cwsmer arfaethedig yn ategu at y Polisi Gwasanaeth
Cwsmer syn disgrifior hyn y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl pan fyddant yn
cysylltu âr Cyngor wyneb yn wyneb, dros y ffôn neun ddigidol. Bydd
gweithrediad y strategaeth hon yn cynnwys adolygiad parhaus or Polisi
Gwasanaeth Cwsmer a gwneir newidiadau yn seiliedig ar anghenion y cwsmeriaid.