Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad i estyn Ysgol Penyffordd

Published: 02/03/2022

Ysgol Penyfford Jeremy Miles-1.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y cynnig i wneud Ysgol Penyffordd yn fwy.

Mae'r ddogfen ymgynghori ar gael i’w gweld a’i lawrlwytho ar wefan Cyngor Sir y Fflint yn:

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/School-Modernisation-Related/Home.aspx 

Mae’r ddogfen ymgynghori yn cael ei chyhoeddi ar bapur.  Os oes angen copi papur o’r ddogfen arnoch, neu gopi mewn fformat gwahanol, er enghraifft Braille neu brint bras, neu os oes angen help arnoch i’w dehongli mewn gwahanol iaith, cysylltwch â’r Tîm Moderneiddio Ysgolion ar 01352 704015 / 01352 704014, neu e-bostiwch 21stCenturySchools@flintshire.gov.uk

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dechrau ar 1 Mawrth 2022 ac yn gorffen am hanner nos ar 11 Ebrill 2022. 

Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad hwn trwy lenwi holiadur ar-lein sydd ar gael ar ein gwefan neu trwy ddilyn y ddolen hon. 

https://www.smartsurvey.co.uk/s/RSDR1R/