Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trefniadau Cydweithio Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu Cymru

Published: 09/03/2022

Pan fyddant yn cwrdd ddydd Mawrth 15 Mawrth, bydd gofyn i aelodau’r Cabinet gefnogi dull Cymru gyfan genedlaethol newydd sydd wedi’i anelu at ddenu mwy o ofalwyr maeth i gefnogi pobl ifanc.   Mae’r gwaith yn ymestyn dull cenedlaethol sydd eisoes wedi’i sefydlu i fabwysiadu.  

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, Y Cynghorydd Christine Jones:

“Mae cefnogaeth gofal maeth effeithiol yn newid bywydau er gwell a bydd y dull cenedlaethol yma’n cyd-fynd â gwaith ardderchog ein tîm maethu yn Sir y Fflint, sydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda gofalwyr maeth i gefnogi plant a phobl ifanc diamddiffyn yn ogystal â gwaith ein gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol.”

Mae’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi cytuno i gydweithio’n effeithiol ar faterion cenedlaethol megis marchnata, hysbysebu a chydlynu rhai o’r swyddogaethau cynnal. 

Bydd hyn yn caniatáu i waith lleol ardderchog Gwasanaethau Plant Sir y Fflint barhau yn y Sir gydag ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd maethu a mabwysiadu ar draws Cymru.