Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Talu dros y ffôn i barcio
Published: 25/03/2022
Mae talu am barcio ym meysydd parcio Sir y Fflint yn haws diolch i gyflwyno gwasanaeth talu digidol newydd.
Mae Sir y Fflint yn lansio’r cynllun PayByPhone o 1 Ebrill 2022 ym mhob un o’i feysydd parcio, fel dull amgen o dalu yn y peiriannau talu ac arddangos. Bydd y gwasanaeth newydd a ddarperir gan PayByPhone nid yn unig yn gwella profiad y cwsmer, ond bydd hefyd yn cyfannu’r dull arian parod presennol a ddarperir mewn peiriannau talu ac arddangos.
Ers cyflwyno’r ffioedd maes parcio yn 2015, yr unig ddull ar gyfer talu i barcio oedd defnyddio arian parod mewn peiriant talu ac arddangos. Mae’r peiriannau hyn yn cynnig talu gydag arian yn unig sy’n golygu bod y defnyddiwr angen y swm cywir i dalu gan nad yw’n rhoi newid. Er bod hyn yn gyfleus i’r rhan fwyaf o bobl, bydd y system ddigidol newydd yn cynnig dewis talu heb arian mwy hyblyg a chyfleus. Bydd yr ateb hwn yn lleihau dibynnu ar beiriannau talu ac arddangos gan sicrhau bod yna bob amser ddewis talu hygyrch ar gael.
Mae defnyddwyr yn gallu lawrlwytho ap neu gofrestru ar-lein i dalu drwy eu ffôn symudol neu gallant ffonio 0330 400 7275 neu destun 65565. Mae gan bob maes parcio rif lleoliad unigryw wedi’i arddangos ar y peiriant tocynnau fydd angen ei ddyfynnu wrth dalu.
Mae manteision eraill y system yn cynnwys dileu’r angen i arddangos tocyn yn eich cerbyd ac nid ydych angen rhuthro yn ôl os bydd eich amser yn rhedeg allan - gallwch dderbyn negeseuon testun i’ch atgoffa ac ymestyn eich sesiwn parcio o’ch ffôn. Mae hefyd yn darparu lleoliadau meysydd parcio ar yr ap cyn gwneud siwrnai, gan wneud meysydd parcio yn fwy hygyrch i’r sawl sy’n ymweld o’r tu allan i’r Sir. Ar ôl parcio, mae unigolyn yna’n gallu pinio eu lleoliad fel eu bod yn gallu dod o hyd i’w car yn hawdd yn nes ymlaen.
Mae hwn yn isafswm ffi prosesu o chwe cheiniog fesul tro bob tro y bydd taliad yn cael ei wneud ac mae’n cael ei atodi gan ddewis ychwanegol i gael neges atgoffa ar eich ffôn symudol pan fydd yr amser parcio yn dod i ben, am ddeg ceiniog fesul neges.
Gyda holl Gynghorau gogledd Cymru yn defnyddio’r un system, bydd y gwasanaeth digidol newydd yn ei wneud yn fwy hyblyg a chyfleus i dalu am barcio ar draws y rhanbarth.
Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth PayByPhone gallwch ymweld â’u gwefan https://paybyphone.co.uk/