Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Meysydd Chwarae a Chaeau Pob Tywydd
Published: 10/03/2017
Mabwysiadwyd Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor gan y Cyngor Llawn ar 14 Chwefror
ac roedd hyn yn cynnwys arian a glustnodwyd ar gyfer meysydd chwarae a chaeau
pob tywydd.
Yng nghyfarfod y Cabinet y mis hwn gofynnir i gynghorwyr gytuno ar y cynlluniau
ar gyfer y meysydd hyn y bydd buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud ynddynt
dros y tair blynedd nesaf.
Mae Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor wedi cymeradwyo bron £900,000 ar gyfer
gwariant ar feysydd chwarae a chaeau pob tywydd yn y dyfodol, sydd yn
ychwanegol at y £0.105 ar gyfer cynlluniau meysydd chwarae nawdd cyfatebol.
Mae’r caeau pob tywydd ym Mold Alun a Phenarlâg bellach dros 10 oed ac
adnewyddu’r rhain fydd yn cael y flaenoriaeth uchaf. Mae’r chwe chae yng
Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy hefyd angen eu newid gan eu bod wedi
cyrraedd diwedd eu hoes o saith mlynedd. Mae defnydd da’n cael ei wneud o’r
caeau hyn ac maen nhw’n cynhyrchu incwm o £0.120m y flwyddyn.
Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu buddsoddi mewn meysydd chwarae lleol dros y tair
blynedd nesaf. Bydd buddsoddiad o £25,000 yn cael ei wneud mewn meysydd chwarae
yn y Fflint, Ffynnongroyw, Cei Connah a Bagillt yn ystod y flwyddyn ariannol
2017/18, a bydd gwelliannau i gaeau chwarae eraill yn y blynyddoedd dilynol.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Hamdden, Cynghorydd Kevin Jones:
“Rydw i wrth fy modd fod Gweinyddiaeth y Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn ein
caeau a’n meysydd chwarae er mwyn sicrhau’r cyfleusterau gorau posibl ar gyfer
trigolion Sir y Fflint. Mae cadw’n ffit ac yn actif mor bwysig ac mae’n wych
fod yr arian hwn yn cael ei fuddsoddi, yn enwedig gan fod cynghorau ar hyn o
bryd yn gorfod gwneud penderfyniadau ariannol anodd dros ben. Rwy’n sicr y
bydd y buddsoddiad cyfalaf hwn, sydd yn ychwanegol at y nawdd cyfatebol a
dderbynnir, yn cael ei groesawu gan bawb.”