Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Galw ar bob Cyflogwr!

Published: 08/04/2022

0002.jpgYdych chi’n cael trafferth recriwtio?

Fe fydd Ffair Swyddi flynyddol Sir y Fflint yn ailddechrau eto’r gwanwyn hwn ar ôl absenoldeb hir o 3 blynedd. A yw eich busnes eisiau cymryd rhan?

Mae Cymunedau am Waith Sir y Fflint, y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn galw ar gyflogwyr lleol i gymryd rhan. Bydd y digwyddiad RHAD AC AM DDIM yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy o 10am tan 2pm dydd Iau, 28 Ebrill 2022.

Bydd yn gyfle gwych i hyrwyddo eich busnes a dod o hyd i weithwyr posibl.  Yn ystod y blynyddoedd a fu mae dros 800 o bobl wedi mynychu’r digwyddiad, a chafodd ei gefnogi gan nifer o gyflogwyr, gyda dros 500 o swyddi gwag ar gael mewn amrywiaeth o sectorau. 

Hefyd bydd cymorth ymarferol ar gael gan gynnwys ardal wirio CV a chymorth i ysgrifennu ffurflenni cais gan Gyrfa Cymru.  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748 881647 Paul.murphy6@dwp.gov.uk neu Nia Parry/Janiene Davies, Cymunedau am Waith nia.parry@flintshire.gov.uk  Janiene.davies@flintshire.gov.uk.