Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Blodau Gwyllt Sir y Fflint

Published: 09/05/2022

poppies dee park.jpgI ddathlu Mai Dim Torri Gwair, awn â chi ar daith o’n gwaith i gynyddu blodau gwyllt ledled Sir y Fflint.

Bellach mae gennym dros 100 o safleoedd ar draws ystâd Cyngor Sir y Fflint sy’n cael eu rheoli ar gyfer blodau gwyllt a phryfed peillio. Mae gennym ystod o safleoedd, o safleoedd naturiol amrywiol, lle rydym wedi dechrau rheoli’r safleoedd i warchod y banc hadau gwyllt presennol, safleoedd blodau gwyllt wedi’u hadu, safleoedd tyweirch blodau gwyllt a safleoedd plannu blodau gwyllt plwg. Mae’r rhain i gyd o fudd enfawr i’n peillwyr gan ddarparu cerrig camu o gynefin yn y dirwedd.

Mewn gwirionedd, dim ond 1% o’n cynefinoedd dolydd traddodiadol sydd gennym ar ôl yn y DU. Mae hyn yn ddinistriol i gynefin sy'n un o'n cyfoethocaf o ran bioamrywiaeth. Ond dyma hefyd y rheswm y mae angen inni ganolbwyntio ar adfer cynefinoedd wrth symud ymlaen.

Dysgwch fwy yma