Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn cynnig cefnogaeth i ffoaduriaid Wcráin

Published: 20/05/2022

ukraine flag.png

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda sefydliadau partner, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i sicrhau bod prosesau mewn lle i groesawu’r rheiny sydd yn ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcràin.

Fel rhan o Gynllun Cartrefi i Ffoaduriaid o Wcráin y DU, mae’r teuluoedd cyntaf wedi dechrau cyrraedd a disgwylir mwy dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Neal Cockerton, Prif Weithredwr Sir y Fflint:

“Fel Sir Noddfa, rydym wedi ymrwymo’n llawn i gefnogi’r rhai hynny sy’n ffoi o Wcràin.  Rydym wedi rhoi mesurau mewn lle a fydd yn sicrhau bod hyn yn digwydd yn ddiogel i bawb.  Cytunwyd ar y broses gyda phob sefydliad partner. 

“Mae diogelu ar gyfer y gwesteiwr a noddwyr yn bwysig iawn pan rydym yn gwneud penderfyniadau, ac rydym yn hyderus y byddwn yn croesawu teuluoedd o Wcràin i Sir y Fflint, gan sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi.”

Os oes gan unrhyw un ymholiadau, neu a fyddai’n hoffi cynnig llety, cysylltwch â ukraineresettlement@flintshire.gov.uk ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i siryfflint.gov.uk/wcrain.