Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Myfyrwyr yn ymweld â Bryniau Clwyd

Published: 17/06/2022

Mae myfyrwyr o ysgolion Sir y Fflint wedi ymuno â Datrysiadau Tirlun i gymryd rhan mewn prosiect sydd yn defnyddio da byw pori fel adnodd ar gyfer rheoli’r tir mewn modd cadarnhaol.   

Mae’r prosiect, a grëwyd gydag arweiniad gan staff AHNE yn cymryd myfyrwyr i ymweld â rhostir ar Fryniau Clwyd i ddysgu am benderfyniadau rheoli tir gwahanol a manteision anifeiliaid pori ar y dirwedd.   

Mae’r ymweliad yn gysylltiedig â gwaith y myfyrwyr ac mae’n adnodd dysgu go iawn sydd yn rhan allweddol o Gwricwlwm i Gymru newydd ac mae’n cyfrannu at greu dinasyddion egwyddorol a gwybodus, unigolion iach a hyderus, dysgwyr uchelgeisiol medrus a chyfranwyr creadigol mentrus.

Ymwelodd cyfanswm o dros 300 o fyfyrwyr â’r ardal o harddwch naturiol eithriadol gan fwynhau gweithgaredd dysgu hwyliog ac ysbrydoledig sydd wedi’u cysylltu nhw gyda “chynefin” eu sir leol.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair:  “Mae wedi bod yn brofiad gwych i’n myfyrwyr ac mae wedi eu cysylltu gyda’u hamgylchedd.   Maent wedi mwynhau’r profiad yn fawr a dwi’n gobeithio y cawn ni’r cyfle i wneud hyn eto yn y dyfodol.”

Dyma rai sylwadau gan y myfyrwyr:

“Pan welsom ni’r gwartheg Cenglog Galloway roeddwn i’n hapus gan ei fod yn edrych fel teulu ac yn fy atgoffa i o’n teulu yn y Santes Fair”. 

“Roeddwn i’n meddwl bod dringo’r mynydd yn hwyl.”

“Roeddwn i’n hapus iawn yn cerdded gyda fy ffrindiau oedd yn gefnogol iawn.”

“Roedd yn brofiad gwych cerdded i fyny at Dwr y Jiwbilî a gweld y gwartheg Cenglog Galloway ar Foel Famau.”

“Fe fwynheais dreulio amser yn siarad gyda phobl nad ydym ni fel arfer yn siarad â nhw wrth i ni gerdded.” 

“Roeddwn i’n teimlo’n ddewr ar ôl i mi oresgyn fy ofn o uchder.”

 Students visit Clwydian Range.jpg