Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod y Lluoedd Arfog

Published: 27/06/2022

Ymunodd y Cynghorydd David Evans, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, â Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Mared Eastwood, mewn seremoni fer y tu allan i Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, i godi baner y Lluoedd Arfog er cefnogaeth i Ddiwrnod y Lluoedd Arfog. Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn anrhydeddu dewrder ac ymroddiad aelodau’r Lluoedd Arfog, yn y gorffennol a’r presennol.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Mared Eastwood:

“Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn rhoi cyfle i ddangos ein cefnogaeth i’r bobl sy’n aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog: o swyddogion sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y Lluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid. Gwyddom eu bod hefyd wedi cyfrannu tuag at yr ymateb i’r pandemig cenedlaethol; anfonwyd mwy na 5,000 o aelodau’r Lluoedd Arfog i gynorthwyo yn yr ymateb cenedlaethol. 

Rydym yn falch o gael chwifio’r faner, sy’n symbol o’n cefnogaeth i’r Lluoedd Arfog, ac mae’n gyfle i ddiolch a chydnabod yr aberth a wnaed – gan aelodau’r Lluoedd Arfog yn y gorffennol, a’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd.”

Dyfarnwyd Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn i’r Cyngor ym mis Tachwedd 2019. Mae’r wobr, yr uchaf yn y cynllun, yn cydnabod ymrwymiad a chefnogaeth barhaus y Cyngor ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog, sy’n cynnwys cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd i sicrhau nad ydynt yn derbyn anfantais annheg yn y gweithle.

Armed Forces Flag (1 of 6).jpg

Yn y llun: Sir y Fflint - Cllr Hilary Mcguill, Stephen Townley Regional Armed Forces Liason Officer, Cllr David Evans Armed Forces Champion, Steve Goodrum Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Andrew Farrow Prif Swyddog Cynllunio, Amgylchedd ac Economi, Cllr Teresa Carberry a Cllr Mared Eastwood, Cadeirydd y Cyngor.