Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn rhagori yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd Cymru

Published: 23/06/2022

Mae tîm addysg Cyngor Sir y Fflint yn dathlu ar ôl derbyn cymeradwyaeth uchel yng nghategori ‘Prosiect y Flwyddyn 2022’ yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd Cymru yn ddiweddar.

Rhoddwyd y gymeradwyaeth hon i Gampws Dysgu Queensferry. Roedd y prosiect yn cynnwys ailfodelu ac ailwampio ysgol gynradd ar y campws, gyda mynediad newydd a gwaith tir cysylltiedig, yn cynnwys bloc gweinyddol, neuadd a chyfleusterau cegin newydd. Y tu allan gwnaethpwyd gwaith tirlunio helaeth i ddarparu mannau agored a gwyrdd. 

Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys codi adeilad addysg newydd ar gyfer Plas Derwen – gofod arbennig i’n dysgwyr 4-16 oed mwyaf diamddiffyn sydd yn ei chael hi’n anodd cael mynediad i addysg prif ffrwd ac sydd angen ymyrraeth arbenigol ar gyfer eu heriau ymddygiadol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae’r adeilad newydd yn cynnwys sawl ystafell ddysgu a dysgu arbenigol, neuadd a chownter arlwyo, ystafelloedd grwpiau bach, cyfleusterau cyfarfod a gweinyddol yn ogystal â lle chwarae caled a chae chwarae y tu allan.

Mae cyfleuster cymunol unllawr newydd, Ty Calon, hefyd wedi’i godi ar y campws i ddarparu ystod o gyfleusterau cymunedol, yn cynnwys caffi, stiwdio, cegin fasnachol a bar, cyfleusterau newid chwaraeon cymunedol a gofodau addysgu er mwyn i Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy ddarparu cyfleoedd dysgu cymunedol i oedolion a phobl ifanc 

Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg a Diwylliant Cyngor Sir y Fflint: 

“Mae derbyn cydnabyddiaeth yn ystod y gwobrau mawreddog hyn yn glod i bawb a oedd yn ymwneud â’r prosiect. Roedd yna wir angen moderneiddio’r ysgol ac mae adeilad newydd Plas Derwen wedi’i godi i’r safon uchaf. Mae’r rhain yn gyfleusterau modern heb eu hail sy’n darparu’r cyfleoedd dysgu gorau i’n plant. Mae’r Cyngor yn parhau i ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol ein plant a’n pobl ifanc. Rydym ni’n parhau i weithio i ddarparu addysg gynaliadwy o safon uchel i’n holl ddysgwyr. Llongyfarchiadau ar dderbyn y gydnabyddiaeth hon.”

Darparwyd y cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Cyngor, yn ogystal â chyllid ychwanegol gan fenter Dechrau’n Deg ac Undeb Rygbi Cymru. Buddsoddwyd dros £10 miliwn yn y prosiect hwn, gyda’r gwaith yn cael ei ddyfarnu i Kier Construction.

Meddai Sean Fenner, cyfarwyddwr rhanbarthol Kier Construction North & Scotland: “Mae cael cymeradwyaeth uchel yn dyst i’r tîm prosiect a’n cadwyn gyflenwi am ansawdd arbennig ein cyfleusterau newydd sydd wedi’u darparu i Gyngor Sir y Fflint.

“Mae Kier yn angerddol am roi’n ôl i’r cymunedau lleol rydym ni’n gweithio ynddynt ac ni fu Campws Dysgu Queensferry yn eithriad, gyda phedwar prentis a phedair swydd newydd wedi’u creu yn ystod y prosiect.”

 

Excellence awards 2022.jpg

 

Sean Fenner – Kier, Martin Walsh – Kier, Simon Mara – Mara Electricals, Tim Ford – Plas Derwen, Jennie Williams – Cyngor Sir y Fflint, Dan Hampson – Kier, Richard Robinson – Kier, Claire Homard – Cyngor Sir y Fflint