Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Plant lleol yn cael eu herio!

Published: 06/07/2022

Mae myfyrwyr o Fryn Gwalia wedi wynebu’r fyddin – a chael llawer o hwyl wrth wneud hynny!

Mae Forces Fitness, cwmni arobryn sy’n gweithio’n agos gyda nifer o ysgolion a sefydliadau eraill, wedi darparu rhaglen gyffrous yn Sir y Fflint, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru.  

Bu myfyrwyr o bob blwyddyn yn treulio’r diwrnod yn canolbwyntio ar heriau sy’n gwella eu hiechyd a’u lles wrth feithrin cadernid. 

Dywedodd y Pennaeth, Lorraine Dalton:  “Mae hwn wedi bod yn brofiad gwych i’n myfyrwyr.  Gwnaethant fwynhau’r diwrnod yn fawr a gobeithio y cawn ni gyfle i wneud hyn eto yn y dyfodol.”

Sylwadau gan rai myfyrwyr:

“Gwnes i fwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau a siarad â’r Cyn-filwyr am hanes a rôl fy Nhad yn y Ffiwsilwr Brenhinol Cymreig.”

“Gwnes i fwynhau gymaint!  Roedd yn hwyl, cyffrous a heriol iawn.  Mae wedi gwneud i mi fod eisiau bod yn gadét.”

Dywedodd Sean Molino BCA (Rheolwr Gyfarwyddwr Forces Fitness Ltd):  “Mae’r gymuned wedi croesawu’r Rhaglen hon yn fawr iawn.  Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am alluogi i hyn ddigwydd, ynghyd â’n partneriaid darparu, yn enwedig Cyngor Sir y Fflint am fod mor gefnogol o’r fenter hon.  Diolch yn fawr i’r staff sydd wedi sicrhau bod y sesiynau hyn mor gofiadwy i gynifer o bobl, y rhieni, gwarcheidwaid, aelodau’r teulu ac wrth gwrs ein cyfranogwyr gwych!  Gobeithio bod modd i ni ddarparu rhywbeth tebyg yn y dyfodol.”

Ysgol Bryn Gwalia Armed Forces Day (16 of 22).jpgYsgol Bryn Gwalia Armed Forces Day (12 of 22).jpg