Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau yn Ysgol Croes Atti Glannau Dyfrdwy

Published: 15/07/2022

leavers ceremony no names small.jpgCyflawnwyd carreg filltir yn Shotton yn ddiweddar wrth i ddisgyblion o Ysgol Croes Atti Glannau Dyfrdwy ddathlu gwasanaeth ffarwelio â Blwyddyn 6 cyntaf yr ysgol. 

Roedd staff, llywodraethwyr, aelodau teulu, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts a’r Prif Swyddog ar gyfer Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard yn bresennol yn yr achlysur arbennig hwn. 

Fel rhan o’u rhaglen uchelgeisiol i ymestyn addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint a chyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’r Cyngor wedi sefydlu Glannau Dyfrdwy gyda chefnogaeth Pennaeth a Chorff Llywodraethu Ysgol Croes Atti, y Fflint sy’n rheoli’r ddau safle fel un ysgol.  

Roedd arolygon rhieni yn ardal Glannau Dyfrdwy wedi nodi y byddai rhieni’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg pe bai darpariaeth ar gael yn lleol, felly penderfynodd y Cyngor fanteisio ar adeilad ysgol gwag i alluogi hyn ac agorodd Ysgol Croes Atti Glannau Dyfrdwy ei drysau i ddisgyblion meithrin yn 2014.  

Mae Mudiad Meithrin hefyd wedi sefydlu grwp cyn ysgol cyfrwng Cymraeg a gofal plant estynedig ar safle’r ysgol.   Mae’r grwp cyntaf o ddisgyblion meithrin bellach wedi cyrraedd diwedd eu haddysg gynradd ac yn symud ymlaen i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg Sir y Fflint, Ysgol Maes Garmon, ym mis Medi.  

Meddai’r Cynghorydd Roberts, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:

“Mae hon yn garreg filltir allweddol ac roeddwn yn hynod falch o fedru mynychu’r achlysur arbennig hwn a oedd yn gyfle i ddisgyblion fyfyrio ar eu cyfnod yn yr ysgol ac edrych yn ôl ar luniau dros y blynyddoedd yn ogystal â pherfformio’r caneuon a’r dramâu yr oeddent wedi bod yn brysur yn eu paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd a gynhaliwyd yn Ninbych dros wyliau hanner tymor mis Mai.   

“Mae Sir y Fflint wedi ymrwymo i’r Gymraeg a thrwy ein Cynllun Cymraeg mewn Addysg, rydym yn cefnogi pobl o bob oedran i wella eu sgiliau Cymraeg a rhoi’r hyder iddynt ddefnyddio’r iaith yn eu bywyd bob dydd.”

Talodd y Pennaeth, Mr Gwyn Jones, deyrnged iddynt am eu cyflawniadau a’u cyfraniad at fywyd yr ysgol.  Talodd deyrnged hefyd i’r rhieni am ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant er nad yw’r mwyafrif ohonynt yn siarad Cymraeg gartref.   Myfyriodd ar ba mor arbennig yw’r ffaith bod y plant hyn bellach yn ddwyieithog ac y byddant yn mwynhau’r buddion o fedru dysgu a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg am weddill eu bywydau. 

Cyflwynodd Claire Homard, y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, dystysgrif arbennig ar ran y Cyngor i’r holl ddisgyblion blwyddyn 6 i gydnabod mai nhw yw’r grwp cyntaf o’r ysgol i symud ymlaen i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, a dymunodd yn dda iddynt ar gyfer y cam nesaf yn eu siwrnai addysgol gyffrous.  

Mae Ysgol Croes Atti’n parhau i fynd o nerth i nerth yn y Fflint a Shotton ac yn elwa o fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy’r Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a ffrydiau cyllido Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg.  

Bydd hyn yn darparu adeilad ysgol newydd sbon gan ddisodli’r ysgol bresennol ar Ffordd Caer yn y Fflint a gwaith ailwampio sylweddol i’r safle Glannau Dyfrdwy yn Shotton er mwyn gwella’r amgylchedd dysgu dan do ac awyr agored.  Bydd y ddau safle hefyd yn elwa o gyfleusterau gofal plant ac addysg gynnar newydd sbon i gefnogi rhagor o deuluoedd i ddewis addysg gynradd a chyn ysgol cyfrwng Cymraeg i’w plant.