Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Agoriad Swyddogol Lleoliad Gofal Plant Sir y Fflint

Published: 18/07/2022

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn dathlu’n ddiweddar wrth iddo agor Gofal Plant Garden City yn swyddogol. 

Roedd yr agoriad swyddogol hefyd yn cyd-daro â dathliadau blwyddyn gyntaf y lleoliad. Er bod Gofal Plant Garden City i fod i agor mis Mehefin 2021, bu’n rhaid oedi hynny tan fis Medi oherwydd bod ar Ganolfan Enfys angen defnyddio’r cyfleusterau tan haf 2021 tra bod eu hadeilad yn yr Wyddgrug yn cael ei drwsio. Mae Canolfan Enfys yn ysgol yn yr Wyddgrug ar gyfer plant 3-7 oed gydag anghenion ychwanegol. 

Mae lleoliad Garden City yn darparu gofal plant sesiynol i blant 2-4 oed. Mae staff cymwysedig yn darparu amgylchedd agored a chynhwysol lle mae pob plentyn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn ddiogel ac yn gallu mynegi eu hunain, gan wreiddio gwerthoedd cymuned a byd eang. 

Mae gan Ofal Plant Garden City ddarpariaeth ar gyfer plant wedi’u hariannu gan gynllun Dechrau’n Deg, y Cynnig Gofal Plant a Grant Gofal Plant a Chwarae, yn ogystal â phlant wedi’u hariannu’n breifat. 

Ers mis Ionawr 2022 mae Gofal Plant Garden City hefyd yn rhan o’r cynllun Cyfle Cynnar ac yn cyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae yna 31 o deuluoedd yn manteisio ar y sesiynau cylch chwarae 2.5 awr, sy’n cael eu cynnal yn y bore a’r prynhawn. 

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Sir y Fflint:

“Dw i’n falch iawn o fod yma heddiw i ddathlu’r cyfleuster arbennig yma ac i groesawu ein holl westeion. Dw i’n falch o fod yn rhan o’r dathliadau i ddathlu lleoliad gofal plant awdurdod lleol cyntaf Sir y Fflint. Diolch i Jenni Rochfort, ein Rheolwr Cymorth Rhianta yn y Gymuned, a welodd fwlch yn y farchnad a datblygu achos busnes ar gyfer y cyfleuster hwn.

“Mae’r galw wedi bod yn uchel iawn ac felly rydym ni’n recriwtio dau aelod arall o staff a, gan fod y lleoliad wedi bod mor llwyddiannus, maen nhw’n edrych ymlaen at groesawu prentis cyntaf y Cyngor mewn gofal plant, a fydd yn dechrau fis Medi. 

“Rydym ni hefyd yn dymuno’n dda i’n carfan gyntaf o blant sy’n symud i’r dosbarth derbyn ym mis Medi. Mae’n stori llwyddiant wych a hoffaf ddymuno’n dda i bawb – dw i’n siwr y byddwch chi’n mynd o nerth i nerth. 

garden city childcare (15 of 15).jpg

Yn torri’r gacen mae Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Sir y Fflint, y Cynghorydd
Christine Jones a Craig McLeod, Uwch Reolwr Gwasanaethau
Cymdeithasol-Plant, swyddogion Cyngor Sir y Fflint eraill,
y plant a'u rhieni

garden city childcare (11 of 15).jpg

 

 

 

 

garden city childcare (1 of 15).jpg garden city childcare (6 of 15).jpg