Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint - canfasiad blynyddol 2022

Published: 20/07/2022

Election tick.jpgPeidiwch â cholli eich pleidlais – mae trigolion Sir y Fflint  yn cael eu hannog i wirio manylion cofrestru pleidleiswyr

Mae trigolion Sir y Fflint yn cael eu hannog i wirio eu manylion cofrestru etholiadol neu gallent wynebu’r posibilrwydd o golli eu cyfle i bleidleisio ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt. 

Mae'r canfasiad blynyddol yn galluogi Cyngor Sir y Fflint i gadw'r gofrestr etholiadol yn gyfredol, i ganfod pwy sydd mewn perygl o golli eu llais mewn etholiadau a’u hannog i gofrestru cyn ei bod hi’n rhy hwyr. 

Gall mwy o bobl bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru nag erioed o’r blaen, felly mae hwn yn gyfle pwysig i ddiweddaru’r gofrestr etholiadol. Gall unrhyw un 16 oed a throsodd bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ac etholiadau Senedd Cymru, ni waeth lle cawsant eu geni.

Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Dywedodd y Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol Sir y Fflint:

“Cadwch lygad allan am ddiweddariadau gan Sir y Fflint! Mae’r canfasiad blynyddol yn ffordd o sicrhau bod yr wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir. Er mwyn gwneud yn siwr nad ydych chi'n colli'ch llais yn yr etholiad nesaf, cadwch lygad allan am gyfarwyddiadau gennym. 

 “Os nad ydych yn clywed gan y cyngor, efallai na fyddwch ar y gofrestr. Os ydych am gofrestru, y ffordd hawsaf yw trwy wneud hynny ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.” 

Mae’r rheiny sydd wedi symud ty yn ddiweddar yn arbennig yn cael eu hannog i wirio eu manylion. Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol wedi canfod bod y rhai sydd wedi symud ty yn ddiweddar yn llawer llai tebygol o fod wedi'u cofrestru na'r rheiny sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad am amser hir. Ym Mhrydain Fawr, bydd 92% o’r rheiny sydd wedi byw yn eu cartref am 16 mlynedd yn gofrestredig, o gymharu â 36% o bobl sydd wedi byw mewn cyfeiriad am lai na blwyddyn. 

Bydd y canfasiad yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd a bydd cofrestr etholwyr newydd yn cael ei gyhoeddi ar 1 Rhagfyr 2022. 

 Gall trigolion sydd â chwestiynau ynghylch eu statws cofrestru gysylltu â thîm gwasanaethau etholiadol yn 01352 702300 neu register@flintshire.gov.uk neu ewch i'n tudalen we Canfasiad Blynyddol.