Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tri o fannau gwyrdd Sir y Fflint yn cael eu henwi ymhlith y gorau yn y wlad

Published: 26/07/2022

DJI_0971 -small.jpgMae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – y gydnabyddiaeth ryngwladol ar gyfer man gwyrdd neu barc o ansawdd uchel.  

Bydd y baneri’n chwifio ym Mharc Gwepra, Bryn y Beili a Dyffryn Maes Glas i gydnabod eu cyfleusterau gwych i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel ac ymrwymiad i ddarparu man gwyrdd o ansawdd uchel.

Mae Parc Gwepra yn 160 erw o fan gwyrdd, yng nghanol Cei Connah, Sir y Fflint, ac mae’n lleoliad unigryw gyda’i amrywiaeth o gynefinoedd a daeareg.  Ymhlith nodweddion y parc mae; Gerddi’r Hen Neuadd, llyn pysgota, ffrwd a rhaeadr a Chastell Ewlo i’r cyhoedd eu darganfod. Mae hwn yn gyfle gwych i gydnabod gwaith y gwirfoddolwyr a Chyfeillion Parc Gwepra - diolch arbennig i chi gyd.  bailey hill2.jpg

Mae Bryn y Beili yn barc cyhoeddus a adeiladwyd o amgylch gweddillion Castell Mwnt a Beili Normanaidd yng nghanol yr Wyddgrug. Rheolir y parc gan grwp tairochrog yn cynnwys Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref yr Wyddgrug a Chyfeillion Bryn y Beili. Mae’r grwp yn parhau i gydweithio i gynnal a gwella’r parc i ymwelwyr. Diolch arbennig i’r holl wirfoddolwyr sy’n rhan ohono am roi eu hamser a’u harbenigedd i’r prosiect am ddim. Mae’r grwp yn falch ei fod wedi cael ei gydnabod eto gyda’i ail Wobr y Faner Werdd olynol.  

Mae Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, ac mae’n cynnwys 70 erw o hanesIMG_2437.jpg diwydiannol.  Yn hanesyddol, roedd Dyffryn Maes Glas yn cyflogi cannoedd o bobl yn ei ffatrïoedd copr a’i felinau cotwm, sydd erbyn hyn yn fannau gwyrdd agored, gwych.  Mae’r Dyffryn yn gartref i nifer o henebion rhestredig ac yn lle delfrydol i fywyd gwyllt.  Hoffai Ymddiriedaeth Dyffryn Maes Glas, sy’n rheoli’r safle, gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r grwpiau gwirfoddol ac unigolion gwahanol sy’n rhoi eu hamser i helpu i gynnal a chadw’r mannau gwyrdd. 

Mae’r tri yn fannau gwyrdd o safon y mae Sir y Fflint yn falch ohonynt, ac maent ar gael i’r gymuned eu harchwilio a’u mwynhau.  

Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid yn yr Hinsawdd, Cefn Gwlad a’r Economi: “Mae Sir y Fflint yn falch iawn o dri man gwyrdd gwych sydd wedi ennill gwobrau.  Mae Parc Gwepra, Bryn y BeiliGreen Flag logo bilingual (2).jpg a Dyffryn Maes Glas yn llawn hanes a bywyd gwyllt.  Mae wir yn gamp derbyn Gwobr y Faner Werdd am y tri.   Mae mannau naturiol Sir y Fflint yn adnoddau gwerthfawr o ansawdd uchel ar gyfer pobl leol.  Hoffwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a staff sy’n gweithio’n galed i gynnal y safonau uchel hyn a chaniatáu i ni chwifio’r ‘Faner Werdd’ yn ein parciau.  Mae amrywiaeth o fywyd gwyllt a nodweddion hanesyddol y parciau hyn o ddiddordeb mawr i breswylwyr a thwristiaid ac maen nhw’n glod i Sir y Fflint.  Maent wedi dod yn ganolbwynt i bobl leol ac ymwelwyr, ac yn uchel eu clod ymhlith ein cymuned leol. Mae’n anrhydedd derbyn y Wobr hon yn 2022/23.”