Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datgelu adroddiad “Bywyd ar ôl Ysgol”

Published: 21/11/2022

Yn ddiweddar mae Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd wedi datgelu eu hadroddiad ymchwil a Chanllaw Arferion Da Bywyd ar ôl Ysgol: y daith ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru.

Y mae Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd, partneriaeth sydd wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cynnwys y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn cefnogi pobl a sefydliadau er mwyn sicrhau bod pobl sydd ag anableddau dysgu’n gallu byw bywyd da.

Yr oedd pwyslais yr ymchwil ar bwysigrwydd cael y cyfnod pontio rhwng yr ysgol uwchradd a dewisiadau a chyfleoedd ôl-16 yn iawn i bobl ifanc sydd ag anableddau dysgu.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Cynghorydd Christine Jones:

“Roeddem eisiau deall pa mor dda mae gogledd Cymru’n diwallu anghenion datblygu unigol pobl ifanc sydd ag anableddau dysgu ar hyn o bryd, a lle mae angen gwella. Casgliad yr ymchwil yw set o argymhellion ar gyfer partneriaid ym meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyflogaeth a sgiliau, a Llywodraeth Cymru.”

Ymysg y canfyddiadau oedd:

  • Yr angen i sicrhau bod cynlluniau pontio yn gyfannol ac yn cynnwys yr holl feysydd bywyd sy’n bwysig i bobl ifanc sydd ag anableddau dysgu, megis cyfeillgarwch a pherthnasoedd, bod yn annibynnol, a chyflogaeth.
  • Pwysigrwydd bod y pontio’n digwydd ar y cyd rhwng iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg. 
  • Gwella’r cynnig cyflogaeth gyda chefnogaeth ar gyfer y rhanbarth, fel bod pob person ifanc yn cael y gefnogaeth gywir i ganfod cyflogaeth am dâl.
  • Yr angen i wella’r cynnig ôl-16 ar gyfer pobl ifanc sydd ag anableddau dysgu dwys a lluosog.

Mae’r pecyn ymchwil yn cynnwys:

  • Yr adroddiad ymchwil llawn, y crynodeb gweithredol, a fersiwn sy’n hawdd i’w ddarllen -gogleddcymrugydangilydd.org.
  • Canllaw Arferion Da sy’n darparu cipolwg o fentrau arloesol sydd â’r nod o alluogi pobl ifanc ag anableddau dysgu i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt. 

Yn dod yn fuan!  Adnodd Bywyd Ar Ôl Ysgol – casgliad o fideos byr wedi’u hanelu at bobl ifanc ag anableddau dysgu. Mae pob fideo’n edrych ar wahanol feysydd bywyd yn seiliedig ar beth mae pobl ifanc wedi dweud sy’n bwysig iddyn nhw wrth gynllunio eu camau nesaf ar ôl ysgol.

Mae’r adnodd yn cynnwys casgliad o fideos byrion sydd wedi eu hanelu at bobl ifanc ag anableddau dysgu. Mae pob clip yn ymdrin â gwahanol faes bywyd, wedi ei seilio ar yr hyn mae pobl ifanc wedi ei ddweud sy’n bwysig iddynt pan fyddant yn cynllunio’r camau nesaf ar ôl ysgol.

Crëwyd yr animeiddiadau hyn gan Glwb Ieuenctid Cefn Llwyfan Cerddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE ac yn ddiweddar bu iddynt ennill gwobr Mirror am eu gwaith yn y categori Syniadau, yn nigwyddiad Adfest Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan 2022 a gynhaliwyd yng Ngogledd Cymru. 

Dyma rai o’r sylwadau gan y bobl ifanc a gymerodd rhan: 

Dywedodd Mahfuz:

“Fe wnes i fwynhau cymryd rhan - y peth gorau oedd gwneud y troslais - roedd y cymeriad yr oeddwn i’n ei chwarae yn ddiddorol ac roedd o’n llawer o hwyl!   Roedd yn brofiad gwerth chweil ac roeddem yn teimlo mor bwysig!” 

Dywedodd Ellesey: 

“Roedd y prosiect yn ysbrydoledig ac yn hwyl ac roedd yn ddiddorol gweld yr holl beth yn dod at ei gilydd a bydd yn ddefnyddiol iawn i mi yn y dyfodol.   Roedd ein Clwb Ieuenctid yn falch iawn ohonom am ennill y wobr.” 

Bydd nifer o’r argymhellion yn cael eu gyrru ymlaen drwy ffrwd waith newydd plant a phobl ifanc ar gyfer y Rhaglen Drawsnewid AD. Os hoffech fwy o wybodaeth, neu os ydych eisiau cymryd rhan, cysylltwch â LDTransformation@flintshire.gov.uk.

Cynhaliwyd yr ymchwil gan Raglen Drawsnewid Anableddau Dysgu Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd ar ran Grwp Partneriaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru.

LDTPsmall.jpg

 

 

Yn y llun o’r chwith i’r dde:  Neil Ayling – Prif Swyddog Sir y Fflint ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, Kathryn Whitfield - Rheolwr y Rhaglen Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd, Ramona Murray - Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Anabledd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Ellesey Crawford a Mahfuz Chowdry - Aelodau o’r Clwb Ieuenctid, Cerddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE,  Stephanie Hall – Swyddog Cynllunio a Datblygu Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd, Y Cynghorydd Christine Jones – Dirprwy Arweinydd Sir y Fflint ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a Kim Killow – Swyddog Cynllunio a Datblygu Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd

Credyd y llun i HeddFWilliams