Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ehangu’r Cynnig Gofal Plant - Sir y Fflint
Published: 03/08/2022
Mae Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar wedi’i ariannu gan y llywodraeth i blant 3 a 4 oed rhieni sy’n gweithio, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Gall rhieni sy’n gweithio gyda phlant a fydd yn gymwys ar gyfer y Cynnig o 1 Medi 2022 wneud cais rwan.
Eleni, caiff y Cynnig Gofal Plant ei ehangu i rieni cymwys sydd mewn addysg neu hyfforddiant.
Gall rhiant mewn addysg neu hyfforddiant fod yn rhiant sydd naill ai:
- • Wedi cofrestru ar gwrs israddedig neu ôl-raddedig Addysg Uwch (AU) sydd o leiaf 10 wythnos o hyd. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a ddarperir o bell.
- • Wedi cofrestru ar gwrs sydd o leiaf 10 wythnos o hyd ac a ddarperir mewn Sefydliad Addysg Bellach (AB). Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a ddarperir o bell
Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Sir y Fflint:
“Mae Sir y Fflint wedi arwain y ffordd o’r cychwyn ar y fenter hon gan Lywodraeth Cymru ac rwy’n falch iawn ei bod yn cael ei hehangu ymhellach i gynnwys rhieni sydd mewn addysg a hyfforddiant. Mae hyn mor bwysig gan y bydd yn rhoi cyfle iddynt ddysgu a datblygu a fydd, yn ei dro, yn gwella eu rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.
“Rydym eisoes yn gwybod ein bod yn cefnogi lles plant ac yn helpu i fynd i’r afael â thlodi plant mewn ffordd uniongyrchol iawn drwy gynyddu incwm gwario aelwydydd sy’n gweithio. Mae llawer o deuluoedd wedi dweud wrthym ni fod hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar eu lles. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl y gallent fod yn gymwys i wirio.”
I gael mwy o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, ewch i’n gwefan, anfonwch e-bost at childcareofferapplications@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 703930.
Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau cais ar gyfer Cynnig Gofal Plant Sir y Fflint, mae croeso i chi ymweld ag un o’n Canolfannau ‘Cysylltu’ lle mae ganddynt gyfrifiaduron hunanwasanaeth a chynghorwyr sy’n gallu cynnig cefnogaeth a chymorth digidol. Ewch i’n gwefan i weld eich Canolfan Cysylltu lleol ac amseroedd agor.