Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru ar y ffordd

Published: 09/08/2022

Cymraeg - Get prepared - press release image.jpgYn yr hydref, bydd Cynnig Gofal Plant Cymru yn lansio ei wasanaeth digidol cenedlaethol newydd, a fydd yn ei gwneud yn haws fyth i ddarparu’r Cynnig.

Mae’n bwysig i bob darparwr gofal plant sy’n darparu Cynnig Gofal Plant Cymru gofrestru ar y gwasanaeth newydd yn yr hydref. Y rheswm am hyn yw oherwydd bydd rhieni sy’n gwneud cais o fis Tachwedd 2022 ymlaen yn gwneud hynny trwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol a bydd taliadau ar gyfer oriau’r Cynnig Gofal Plant a ddarperir i’r plant hynny yn cael eu gwneud trwy’r gwasanaeth newydd yn unig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Cynnig Gofal Plant Cymru: Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol | LLYW.CYMRU.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd yn bryd i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth digidol cenedlaethol, ond yn y cyfamser, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu’r cyntaf o gyfres o Ddigwyddiadau Hyfforddi Byw am ddim ar y dyddiadau isod. Dim ond un o’r tair sesiwn sydd ar gael y bydd angen i ddarparwyr ei mynychu.  

Cliciwch ar y ddolen ar gyfer Digwyddiad Byw Cofrestru Darparwyr Llywodraeth Cymru – Sesiwn Saesneg ar 5 Medi 18:30 tan 20:00

Cliciwch ar y ddolen ar gyfer Digwyddiad Byw Cofrestru Darparwyr Llywodraeth Cymru – Sesiwn Saesneg ar 6 Medi 10:00 tan 11:30

Cliciwch ar y ddolen ar gyfer Digwyddiad Byw Cofrestru Darparwyr Llywodraeth Cymru – Sesiwn Gymraeg ar 6 Medi 18:30 tan 20:00

Bydd fideos hyfforddi ar-lein ar gael hefyd i ddarparwyr nad ydynt yn gallu mynychu unrhyw un o’r sesiynau. 

Bydd sesiynau hyfforddi Digwyddiad Byw yn y dyfodol yn ymdrin â’r pynciau canlynol, a bydd y dyddiadau’n cael eu rhannu gyda chi yn ystod yr wythnosau i ddod: 

  • Sut i gadarnhau cytundebau gyda rhieni
  • Sut i hawlio taliadau.

Hyfforddiant sgiliau digidol

Gallwch hefyd gael hyfforddiant sylfaenol am ddim i ddatblygu eich sgiliau digidol trwy sesiynau hyfforddi byw a rhai a recordiwyd o flaen llaw gyda Chymunedau Digidol Cymru. Gallwch gael at y rhain yma.  

Os bydd arnoch angen unrhyw gymorth ychwanegol neu wybodaeth bellach ynglyn â gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru, ewch i llyw.cymru/gwasanaethdigidolcynniggofalplant