Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Canlyniadau Safon Uwch

Published: 18/08/2022

Exam results AdobeStock_299759043 copy.jpgMae myfyrwyr chweched dosbarth mewn ysgolion yn Sir y Fflint yn dathlu heddiw wrth i ddosbarth 2022 gael eu graddau.   

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg, Y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:

“Hoffai’r Cyngor longyfarch holl ddysgwyr ôl-16 yn Sir y Fflint am eu gwaith caled i gyflawni eu canlyniadau.

“Mae ymdrech sylweddol wedi’i wneud ar draws y system i sicrhau fod dysgwyr yn gallu sefyll arholiadau eleni, er gwaethaf yr ansicrwydd parhaus ar gyfer llawer o’r flwyddyn academaidd mewn perthynas â’r pandemig. Mae’r bobl ifanc hyn wedi gweithio’n galed a dwi’n gobeithio bod y cymwysterau y maen nhw’n ei dderbyn heddiw yn eu galluogi nhw i symud at gam nesaf o’u siwrnai, p’un ai mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. 

“Rwy’n falch iawn dros bob un ohonyn nhw ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw."

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:

“Hoffwn longyfarch ein holl ddysgwyr ôl-16 ar eu canlyniadau eleni. Maen nhw wedi gorfod gweithio trwy gyfnod heriol gyda llawer o newidiadau.   Gall pob myfyriwr fod yn falch iawn o’u cyraeddiadau a dymunaf pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol. 

“Dwi hefyd yn cydnabod ymrwymiad eu teuluoedd a’u hysgolion sydd wedi’u cefnogi nhw trwy gydol eu hastudiaeth a darparu cefnogaeth ac arweiniad.  

“Gwyddwn fod ein staff ysgol ymroddedig yn parhau i gynnig cefnogaeth a chyngor i ddysgwyr dros y dyddiadau ac wythnosau nesaf wrth wneud dewisiadau am lwybrau’r dyfodol.”