Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Canlyniadau TGAU

Published: 25/08/2022

Exam results AdobeStock_299759043 copy.jpgMae myfyrwyr o bob rhan o Sir y Fflint yn dathlu heddiw wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau TGAU. 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg, Y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:

“Mae’r Cyngor yn falch iawn o’n holl ddisgyblion blwyddyn 11 am wneud yr holl waith caled i gael y graddau maen nhw wedi eu cael. Bu ymdrech sylweddol ar draws y system i sicrhau bod modd i fyfyrwyr sefyll arholiadau eleni. Mewn blwyddyn o aflonyddwch parhaus yn sgil y pandemig, maent wedi gweithio’n galed i gyflawni eu nodau.  

“Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw ac rwy’n eu hannog i barhau i weithio’n galed ac anelu’n uchel.” 

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:

“Fe hoffwn longyfarch ein holl ddysgwyr sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw.  Maent wedi parhau i ddangos gwytnwch dros y deuddeng mis diwethaf wrth baratoi ar gyfer eu harholiadau.  Fe hoffwn gydnabod gwaith y rhieni a gofalwyr yn cefnogi a thywys eu plant, a diolch iddynt am weithio mewn partneriaeth gyda’n hysgolion.  

“Hoffwn hefyd ddiolch i staff ein hysgolion sydd wedi gweithio drwy’r flwyddyn i sicrhau bod ein disgyblion yn cael pob cyfle i lwyddo. Rydw i’n gwybod y byddant yn parhau i ddarparu cefnogaeth a chyngor i’w dysgwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau am lwybrau’r dyfodol a pharatoi ar gyfer mis Medi.  Rydw i’n dymuno pob llwyddiant i ddysgwyr gyda’u camau nesaf.