Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymestyn ymgynghoriad Stryd Fawr Shotton

Published: 23/08/2022

Shotton1.pngMae Cyngor Sir y Fflint wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynigion ar hyd Stryd Fawr Shotton.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ddydd Sul 11 Medi 2022 yn awr. 

Cynhelir digwyddiad gwybodaeth arall ar: 

Ddydd Mawrth, 6 Medi 2022 rhwng 4pm-8pm yn Eglwys Rivertown, Chester Road West, Shotton, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 1BX. 

Hyd at 11 Medi 2022, mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd i www.siryfflint.gov.uk/shotton

Mae Stryd Fawr Shotton yn goridor teithio pwysig, sy’n darparu cysylltiadau strategol allweddol i ardaloedd cyflogaeth, addysg a gwasanaethau.  Fodd bynnag, i’r rhai sy’n byw, gweithio neu’n teithio’n rheolaidd trwy Shotton, ac sy’n cael mynediad i amwynderau lleol mewn car, ar feic neu wrth gerdded, mae tagfeydd traffig ac achosion o wrthdaro rhwng cerddwyr a beicwyr ar y llwybrau troed wedi effeithio ar hyn yn y gorffennol. 

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hanesyddol ar hyd y coridor, mae cynigion wedi’u datblygu ar gyfer cyflwyno lonydd beicio hybrid, gwelliannau i isadeiledd gwyrdd sy’n cynnwys pyllau coed, gerddi glaw a safleoedd bws gwyrdd, yn ogystal â mesurau sy’n ceisio gwella llif y traffig fel y lonydd troi i’r dde dynodedig a newidiadau i gyfyngiadau Dim Mynediad/Traffig Unffordd presennol.

Rhagwelir y bydd y cynigion ar gyfer gwelliannau yn gwella ansawdd bywyd preswylwyr yn fawr yn ogystal â chynnig dewisiadau teithio gwyrdd amgen ar gyfer teithiau lleol gyda manteision amlwg ar gyfer iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd.

Pe bai’r cynllun yn datblygu i’r cam adeiladu, byddai cyfnod anochel o amhariad, a rhagwelir y byddai’r cyfnod hwn yn para am gyfnod o 11 mis pan fyddai angen defnyddio goleuadau traffig dros dro 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.