Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Awdur rheilffyrdd mwyaf adnabyddus Prydain yn cefnogi bid £36m Rownd 2 Sir y Fflint i Gronfa Ffyniant Bro’r Deyrnas Unedig ar gyfer llinell y Gororau Wrecsam-Lerpwl

Published: 25/08/2022

Mae awdur rheilffyrdd mwyaf adnabyddus Prydain, Christian Wolmar, wedi ymuno ag ASau, Aelodau’r Senedd, arweinwyr busnes ac awdurdodau lleol o Ogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr i gefnogi bid £36m Rownd 2 Cronfa Ffyniant Bro’r Deyrnas Unedig gan Gyngor Sir y Fflint ar gyfer buddsoddiad yn llinell y Gororau rhwng Wrecsam a Lerpwl drwy Bidston.

Daeth Christian Wolmar i ymweld â’r rheilffordd fel gwestai’r ymgyrch reilffyrdd drawsffiniol Growth Track 360 ym mis Hydref 2021 ac ysgrifennodd am ei brofiadau yn ei golofn yng nghylchgrawn RAIL. Yn ei lythyr o gefnogaeth ar gyfer bid Rownd 2 y Gronfa Ffyniant Bro, dywedodd Mr Wolmar fod “ansawdd y gwelliannau arfaethedig i’r llinell wych hon nad yw’n cael ei defnyddio’n llawn wedi gwneud cryn argraff arno”.

Bwriad y ddau gynllun buddsoddiad fel rhan o’r bid i’r Gronfa Ffyniant Bro yw gwella cynnydd wrth ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd amlach, cyflymach a mwy dibynadwy ar Linell y Gororau a fydd yn denu mwy o deithwyr:

  • Gorsaf Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy – gorsaf newydd o’r radd flaenaf gyda maes parcio mawr ar gyfer dros 200 o geir, cyfnewidfa bysiau a chyfleusterau teithio llesol; a
  • Cysylltiad yng ngwaith Hanson Cement yn Padeswood – cilffyrdd newydd a threfniadau mynediad gwell o’r brif linell i gael gwared ar gystadleuaeth o ran capasiti ar y trac rhwng trenau sy’n cludo teithwyr a threnau nwyddau.

Mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn canolbwyntio ar fuddsoddiad cyfalaf mewn seilwaith lleol gyda’r nod o gael effaith amlwg a gwirioneddol ar bobl a lleoedd a chefnogi adferiad economaidd.

Gyda chefnogaeth awdurdodau lleol a sefydliadau busnesau yng nghyngrair trawsffiniol Growth Track 360, cyflwynodd Cyngor Sir y Fflint fid cychwynnol am gyllid gan y Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer llinell y Gororau ym mis Mehefin 2021.  Gan ddysgu o’r adborth a gafwyd gan Lywodraeth y DU ar y bid hwn a gyda chymorth gwaith cynhwysfawr gan Trafnidiaeth Cymru a mewnbwn manwl gan Awdurdod Cyfunol Rhanbarth Dinas Lerpwl, mae disgwyliadau yn uchel y bydd ymateb cadarnhaol i’r cais Rownd 2.

Mae’r bid newydd yn cynnwys llythyrau blaenoriaeth ffurfiol o gefnogaeth gan Aelodau Seneddol lleol Christian Matheson AS (Llafur, Dinas Caer), Mark Tami AS (Llafur, Alun a Glannau Dyfrdwy) a Justin Madders AS (Llafur, Ellesmere Port a Neston) a llythyrau cefnogol gan Dr James Davies AS (Ceidwadwyr, Dyffryn Clwyd) Cadeirydd Grwp Seneddol Hollbleidiol Mersi, Dyfrdwy a Gogledd Cymru yn Senedd San Steffan, Sarah Atherton AS (Ceidwadwyr, Wrecsam) a Mick Whitley AS (Llafur, Penbedw) yn ogystal ag aelodau Llywodraeth Cymru, saith Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli Gogledd Cymru, busnesau, cymdeithasau masnachol a defnyddwyr rheilffyrdd, ac arweinwyr awdurdodau lleol ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Cadeirydd Growth Track 360, y Cynghorydd Louise Gittins, Arweinydd Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Chaer:

“Bydd gwelliannau i reilffordd y Gororau yn cefnogi dyhead llywodraethau’r DU a Chymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd gan gynnig dewisiadau teithio amgen yn lle ceir a chysylltiad di-dor rhwng Rhanbarth Dinas Lerpwl a Sir Gaer â Metro Gogledd Cymru yn y dyfodol, yn ogystal â rhoi cyfle i’n dinasyddion gael mynediad at amrywiaeth eang o gyfleoedd swyddi, hyfforddiant sgiliau, cyfleusterau addysg a hamdden, ni waeth a ydynt yn byw yng Nghymru neu Lloegr.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Dirprwy-gadeirydd Growth Track 360, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae Sir y Fflint, Growth Track 360 a’n cefnogwyr wedi dysgu llawer iawn o’n cais cyntaf i’r Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer llinell y Gororau. Gyda llawer o gefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru, Awdurdod Cyfunol Rhanbarth a Dinas Lerpwl a’r sector preifat, rydym yn awr wedi llunio bid gwych ar gyfer Rownd 2 ac os caiff ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU bydd yn cyflymu’r broses o drawsnewid y rheilffordd rhwng Wrecsam a Lerpwl ac yn cynorthwyo i ddatgloi potensial economaidd llawn ein rhanbarth trawsffiniol.”