Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pam ddylai teuluoedd ar incwm llai barhau i ymgeisio am Brydau Ysgol Am Ddim

Published: 01/09/2022

school meals small.jpgMae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno prydau ysgol am ddim yn raddol i holl ddisgyblion ysgolion cynradd (UPFSM) erbyn 2024, bydd y broses yn cael ei chwblhau fesul cam gan ddechrau gyda: 

• Disgyblion y dosbarth derbyn - Medi 2022 

• Blwyddyn 1 a 2 - Ebrill 2023

Mae’r cynllun Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) yn wahanol i’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) ac mae’n bwysig i deuluoedd ddeall y gwahaniaeth rhwng y ddau gynllun.   

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) - nod Llywodraeth Cymru yw bod bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru’n gymwys am bryd ysgol am ddim erbyn 2024, beth bynnag yw incwm y cartref. Yma yn Sir y Fflint, ni fydd angen ymgeisio am UPFSM.   Nid yw derbyn UPFSM yn golygu y bydd teuluoedd yn gymwys i dderbyn cymorth gyda hanfodion ysgol eraill, megis Grantiau Gwisg Ysgol.   Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar UPFSM yma flintshire.gov.uk/UPFSM-C  

Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) - mae rhai teuluoedd sy’n bodloni meini prawf arbennig, er enghraifft y rheiny ar incwm llai neu sy’n derbyn budd-daliadau arbennig, yn gymwys i dderbyn pryd ysgol am ddim.   

Yn dilyn cais llwyddiannus am eFSM, bydd teuluoedd yn gymwys i dderbyn budd-daliadau eraill i helpu i dalu am gostau hanfodion ysgol, megis Grantiau Gwisg Ysgol.  

Er y bydd UPFSM yn dod i rym ym mis Medi 2022, a bydd grwpiau blwyddyn cymwys yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim, fe ddylai teuluoedd sy’n gymwys am eFSM barhau i ddefnyddio proses ymgeisio eFSM i sicrhau nad ydynt yn colli allan ar fudd-daliadau eraill.  

Am ragor o wybodaeth am eFSM a grantiau gwisg ysgol, ymwelwch â flintshire.gov.uk/eFSM-C   

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden Cyngor Sir y Fflint:

“Yma yn Sir y Fflint, byddwn yn dechrau cyflwyno UPFSM i blant blwyddyn derbyn ym mis Medi 2022.    Ein nod yw ymestyn y ddarpariaeth i blant blynyddoedd 1 a 2 o fis Ebrill 2023.  

“Yn amlwg, mae llawer o waith yn mynd rhagddo y tu ôl i’r llenni i roi ein seilwaith, cyfarpar, adnoddau a phrosesau ar waith er mwyn cefnogi gweithrediad llawn y polisi hwn gan Lywodraeth Cymru, a’n blaenoriaeth ar hyn o bryd yw sicrhau ein bod yn darparu cam cyntaf y gweithrediad ym mis Medi 2022. 

“Er fy mod yn croesawu cyflwyniad UPFSM a’r gefnogaeth ariannol y bydd yn ei chynnig i deuluoedd sy’n dioddef yn sgil yr argyfwng costau byw, ni allaf bwysleisio ddigon pa mor bwysig yw hi i deuluoedd ar incwm isel sy’n gymwys am fudd-daliadau eraill gyflwyno eu ceisiadau eFSM i sicrhau nad ydynt yn colli allan.

“Ni fydd pawb yn ymwybodol, ond yn ogystal â theuluoedd, bydd ysgolion hefyd yn elwa o eFSM.   I bob plentyn sy’n ymgeisio am, ac sy’n derbyn eFSM, gall eu hysgol gael mynediad at gyllid sydd wir ei angen i helpu i dalu am hanfodion ysgol er lles dysgwyr.”