Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yw’r Cyngor cyntaf yng ngogledd Cymru i lansio Banc Data
Published: 02/12/2022
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno â Sefydliad Good Things i sicrhau bod trigolion ar incymau isel yn cael cysylltiadau digidol trwy ddarparu cardiau SIM a thalebau data am ddim iddynt trwy’r Banc Data Cenedlaethol.
Trwy’r bartneriaeth newydd hon bydd cardiau SIM a thalebau data yn cael eu dosbarthu am ddim gan ein pump Canolfan Gysylltu* i drigolion cymwys, gan ddefnyddio dull yn seiliedig ar ymddiriedaeth. Mae’r data wedi’i ddarparu am ddim gan Virgin Media, O2, Vodafone a Three.
Mae ein Canolfannau Cysylltu wedi ymuno â Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol (“canolfannau ar-lein”) y Sefydliad Good Things yn ddiweddar sy’n rhoi mynediad i’r Cyngor at y Banc Data Cenedlaethol. Mae Sefydliad Good Things yn elusen sy’n helpu pobl i wella eu bywydau yn ddigidol ac mae ei gweledigaeth yn cyd-fynd â dyheadau’r Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol:
“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi y bydd Banc Data yn cael ei gyflwyno ym mhob un o’n Canolfannau Cysylltu. Rwy’n arbennig o falch bod Sir y Fflint yn un o’r Cynghorau cyntaf yng Nghymru - a’r cyntaf yng ngogledd Cymru - i ddarparu’r gwasanaeth yma.
“Trwy ddarparu cardiau SIM gyda data am ddim i aelwydydd incwm isel, byddwn yn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl yn ein byd digidol datblygedig. Mae’r timau yn ein Canolfannau Cysylltu ar gael i gefnogi trigolion i gael mynediad at y rhyngrwyd ac rwy’n annog unrhyw un sydd angen ein help i gysylltu â ni.”
Fel rhan o weledigaeth ddigidol y Cyngor, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi pobl i gysylltu ar-lein, gan helpu trigolion i gael mynediad at y rhyngrwyd, cysylltedd data a theclynnau, er mwyn llenwi’r bwlch digidol mewn cymunedau.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Tystiolaeth ac Ymgysylltu o Sefydliad Good Things, Emma Stone:
“Rydym yn falch iawn bod Sir y Fflint wedi ymuno â’n rhwydwaith a’r Banc Data Cenedlaethol. Fel partner balch i Cwmpas a Chymunedau Digidol Cymru - gobeithiwn y bydd mwy o gynghorau a sefydliadau cymunedol yn dilyn esiampl Sir y Fflint ac yn helpu i fynd i’r afael â thlodi data a llenwi’r bwlch digidol mewn cymunedau.”
Bydd y Canolfannau Cysylltu hefyd yn cynnig sesiynau hyfforddi digidol am ddim ar y cyd â Sefydliad Good Things - bydd mwy o wybodaeth ar gael am y rhain yn y dyfodol agos. Mae mwy o wybodaeth ar gael am y Banc Data Cenedlaethol a Sefydliad Good Things yma. Mae gwybodaeth hygyrch ynglyn â sut i gefnogi pobl â chysylltedd ar gael yma ac mae fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael.
Am help gyda sgiliau digidol ac am wybodaeth am y Banc Data gallwch gysylltu â’ch Canolfan Gysylltu leol yma.
*Bwcle, Cei Connah, Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug
Sali Newsam, Cynghorydd Sir y Fflint yn Cysylltu, yn cynorthwyo cwsmer ac yn rhoi cerdyn SIM am ddim iddynt yn y ganolfan yn yr Wyddgrug