Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ydych chi nawr yn gymwys ar gyfer grant gwisg ysgol?

Published: 01/09/2022

School Uniform AdobeStock_312923164.jpgYn dilyn newid cyfeiriad diweddar gan Lywodraeth Cymru, mae awdurdodau lleol ar y ffin nawr yn gallu cynnig grantiau gwisg ysgol i blant sy’n byw yng Nghymru ond sy’n mynychu ysgol yn Lloegr.  

Yn wahanol i Gymru, nid yw pob awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnig grantiau gwisg ysgol.    Mae hyn wedi rhoi rhai teuluoedd dan anfantais os yw eu plant yn mynd i’r ysgol yn Lloegr.  

O fis Awst eleni, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi hawl i Gynghorau ar y ffin â Lloegr, fel Sir y Fflint i ymarfer eu disgresiwn a chaniatau tâl i deuluoedd, yn ddarostyngedig iddynt fodloni meini prawf cymhwyso arall ar gyfer y cynllun.  

Os ydych yn meddwl y gallai eich teulu fod yn gymwys ar gyfer y grant hwn, byddem yn eich annog i ymgeisio yn Grant Gwisg Ysgol.