Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhybudd o sgam

Published: 07/09/2022

SGAM.jpgMae Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint yn rhybuddio preswylwyr bod sgamwyr a seiberdroseddwyr yn ceisio manteisio ar yr argyfwng costau byw. Mae un o’r negeseuon e-bost sgam diweddaraf yn esgus bod yn Nwy Prydain ac yn cynnig ad-daliad o £315 sydd ddim yn bodoli.

Peidiwch â chlicio ar y ddolen yn yr e-bost gan y bydd yn eich arwain at wefan faleisus sydd wedi’i llunio i ddwyn eich gwybodaeth ariannol a/neu bersonol.

Os ydych chi’n meddwl bod neges e-bost rydych wedi’i chael gan Nwy Prydain yn un gonest, dylech gysylltu â Nwy Prydain gan ddefnyddio’u rhif cyswllt swyddogol oddi ar eu gwefan er mwyn gwirio dilysrwydd yr e-bost.