Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Proclamasiwn esgyniad y Brenin Charles III

Published: 09/09/2022

Ddydd Sadwrn, 10 Medi 2022, bydd Cyngor yr Esgyniad yn ymgynnull ym Mhalas St James i gyhoeddi esgyniad y Brenin Charles III yn ffurfiol. 

Unwaith fydd y darlleniad cenedlaethol wedi gorffen, darllenir y proclamasiwn mewn lleoliadau ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig.  

Darllenir y proclamasiwn ar gyfer Sir Seremonïol Clwyd am 1pm ddydd Sul, 11 Medi 2022, y tu allan i Neuadd y Sir, yr Wyddgrug.   

Traddodir y proclamasiwn gan Uchel Siryf Clwyd, a bydd yr Arglwydd Raglaw a phobl bwysig o bob un o’r pedwar cyngor o fewn hen ffiniau Clwyd yn ymuno. 

Gan ei fod yn agored i’r cyhoedd, y mae croeso i breswylwyr Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam fod yn bresennol i fod yn dystion i’r foment hanesyddol hon. 

Yn dilyn darllen proclamasiwn Clwyd, cynhelir digwyddiadau lleol er mwyn clywed y darlleniad am 2.30pm yn y lleoliadau a restrir isod, sydd hefyd yn agored i’r cyhoedd. 

• Neuadd y Sir, Sir Ddinbych (y grisiau blaen ger Ffordd Wynnstay)

• Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF

• Neuadd y Dref, Wrecsam (balconi).