Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffair Swyddi Parc Brychdyn

Published: 20/09/2022

Jobs_Welsh_AdobeStock_229293663.jpg Ydych chi’n chwilio am waith? Oes arnoch chi angen cyngor ynglyn â sgiliau a hyfforddiant? 

Dewch draw i Ddigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint ym Mharc Brychdyn i wella eich siawns o gael gwaith. 

Mae Cymunedau am Waith Sir y Fflint, y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod â chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaeth a phobl sy’n chwilio am waith at ei gilydd ym Mharc Brychdyn ddydd Sadwrn 24 Medi rhwng 10am a 2pm.   Mae’r cyflogwyr lleol sydd wedi cadarnhau eu presenoldeb yn y Ffair Swyddi yn cynnwys; Next, Clogau, Entertainer, Body Shop, Fragrance Shop, Boots, Hays Travel, The Card Factory, Tim Hortons a llawer mwy.

Dywedodd Alan Barker, Rheolwr y Ganolfan ym Mharc Brychdyn:  “Mae’r ffeiriau swyddi wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt yn y gorffennol o ran paru cannoedd o geiswyr gwaith â swyddi yn y ganolfan.  Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd dros ben i lawer o bobl, ac felly rydym ni’n edrych ymlaen at gyflwyno cyfleoedd gwych i’r rheiny yn y gymuned leol sy’n chwilio am waith neu her newydd.” 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chymunedau am Waith janiene.davies@flintshire.gov.uk neu nia.parry@flintshire.gov.uk neu Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith paul.murphy6@dwp.gov.uk ar 07748881647