Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Stori Fythol y Caffi Dementia
Published: 08/05/2017
Yn ddiweddar cynhaliodd caffi dementia ym Mwcle brosiect ‘Bwcle Cyfeillgar i
Ddementia’ yn eu cyfarfod misol.
Maer prosiect pontio’r cenedlaethol, sy’n cael ei gynnal gan RMD – Memory
Matters, yn darparu “Stori Fythol”, gan ddefnyddio’r dychymyg a hel atgofion,
mae’n gweithio gyda phobl sy’n byw â dementia, eu gofalwyr a phlant ysgol.
Dywedodd Donna Redgrave o RMD - Memory Matters, sydd wedi bod yn gweithio gyda
myfyrwyr o Ysgol Southdowns ym Mwcle:
“Dyma’r bedwaredd ysgol yr ydym wedi gweithio gyda hi yn Sir y Fflint ar y
prosiect hwn. Mae RMD - Memory Matters yn credu gall y celfyddydau helpu’n
sylweddol pawb sy’n cael eu heffeithio gan ddementia i fyw yn dda. Gallant
hefyd fod yn gerbyd i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl o’r cyflwr a dod
â chymunedau yn nes. Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau creadigol,
hyfforddiant a chefnogaeth, ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr
a’r gymuned ehangach.
“Mae disgyblion, athrawon a staff cefnogi yn Southdowns wedi cwblhau sesiwn
“Cyfeillion Dementia” sy’n rhoi cyflwyniad iddynt i’r heriau o fyw gyda
dementia. Yn dilyn hyn, mae grwp o fyfyrwyr yn gweithio gyda mi ar sesiwn
“Stori Fythol”.
Mae Caffis Dementia yn darparu amgylchedd diogel, cyfforddus a chefnogol ar
gyfer pobl â dementia au gofalwyr i gymdeithasu.
Yn ogystal â chynnig amrywiaeth o weithgareddau difyr a hwyliog, mae Caffis
Dementia yn rhoi cyfle i ofalwyr a phobl â dementia gael gwybodaeth a chyngor a
siarad â phobl eraill sydd â phroblemau tebyg.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Luke Pickering-Jones yng Nghyngor Sir y Fflint
ar 01352 702655.