Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cofrestrwch i bleidleisio yn etholiad cyffredinol Seneddol y DU
Published: 15/05/2017
Ar ddydd Iau, 8 Mehefin bydd pleidleiswyr yn mynd i’r gorsafoedd pleidleisio i
ethol Aelodau Seneddol ar gyfer y ddwy etholaeth seneddol yn Sir y Fflint,
Delyn ac Alun a Glannau Dyfrdwy. Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw
dydd Llun 22 Mai.
Gall unrhyw un sydd heb gofrestru i bleidleisio yn eu cyfeiriad presennol
gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestruibleidleisio
Os na fyddwch yn gallu bwrw eich pleidlais yn bersonol ar 8 Mehefin, gallwch
wneud cais i bleidleisio drwy’r post neu trwy ddirprwy.
Mae pleidleisio drwy’r post yn ddewis hawdd a chyfleus yn lle pleidleisio’n
bersonol. Yng Nghymru, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais drwy’r post ar
gyfer etholiad cyffredinol y DU yw 5pm dydd Mawrth, 23 Mai.
Mae pleidlais trwy ddirprwy yn eich caniatáu i enwebu unigolyn dibynadwy i fwrw
eich pleidlais ar eich rhan. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i bleidleisio
trwy ddirprwy yn etholiad cyffredinol y DU yw 5pm ar ddydd Mawrth, 31 Mai.
Dywedodd Colin Everett, y Swyddog Canlyniadau:
“Gall unrhyw un sy’n amau o gwbl a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio ar 8
Mehefin gysylltu â Swyddfa’r Etholiadau ar 01352 702412.
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Swyddfa Comisiwn Etholiadol Cymru:
“Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod pobl sydd wedi symud ty yn ddiweddar yn
llai tebygol o fod wedi cofrestru i bleidleisio. Os ydych wedi symud ty yn y
misoedd diwethaf, tydi gwneud cais i dalu treth y cyngor ddim yn golygu eich
bod wedi cael eich ychwanegu at y gofrestr etholiadol. Gellir cofrestru i
bleidleisio ar lein ac maen cymryd llai na phum munud i lenwir ffurflen.