Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cabinet yn ystyried cynnydd blynyddol cadarnhaol y Cyngor
Published: 16/06/2017
Bydd gofyn i Aelodau’r Cabinet ystyried adroddiad syn cwmpasu perfformiad a
chyraeddiadau yn erbyn y mesurau, y cerrig milltir a’r risgiau a nodir yn y
Cynllun Gwella ar gyfer 2016/17 pan fyddant yn cwrdd ddydd Mawrth, 20 Mehefin.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi perfformion dda yn ystod y flwyddyn ariannol
ddiwethaf ac yn profi unwaith eto ei fod yn Gyngor syn perfformio’n dda. Dyma
adroddiad cadarnhaol arall, gyda 100% or camau y cytunwyd arnynt yn cael eu
hasesu i fod yn gwneud cynnydd da, ac 82% yn debygol o gyrraedd y canlyniad
delfrydol.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
“Drwy ein Cynllun Gwella, rydym yn blaenoriaethu ardaloedd a gwasanaethau sy’n
bwysig i’n cymuned. Mae’n cael ei fonitro drwy gydol y flwyddyn i asesu a ydym
am gyflawni ein targedau. Er gwaethaf yr heriau ariannol nas gwelwyd o’r blaen,
mae’r Cyngor hwn yn parhau i fod yn sefydliad sy’n perfformio’n dda, ac rwy’n
falch bod gennym lawer o lwyddiannau i fod yn falch iawn ohonynt.
Mae rhai o’r llwyddiannau hynny yn cynnwys:
· Sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol llwyddiannus i ddarparu gwasanaethau i
ysgolion, cartrefi gofal preswyl a gwasanaethau eraill y Cyngor, gyda’r gallu i
wneud busnes yn y farchnad fasnachol ehangach – NEWydd Catering & Cleaning.
· Cwblhaur 12 o dai cyngor cyntaf i gael eu hadeiladu mewn cenhedlaeth yng
Nghei Connah, ac ehangu’r rhaglen i ardaloedd eraill yn y Sir.
· Aeth rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif yn ei blaen gydag agoriad y Campws
Dysgu newydd yn Nhreffynnon a 6ed campws Glannau Dyfrdwy, ynghyd â chyhoeddi
datblygiad mawr yn Ysgol Uwchradd Cei Connah ac ysgol plant iau newydd sbon yn
cael ei hadeiladu ym Mhenyffordd yn lle’r ysgolion babanod a phlant iau
presennol.
· Ar y cyfan, bu i 181 o ymholiadau busnes newydd arwain at greu 1,480 o swyddi
yn 2016/17, y mae 572ohonynt wedi bod o fewn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, a 12
yn y sector menter gymdeithasol. Mae cyfran yr ymholiadau busnes sy’n trosi i
fuddsoddiadau yn parhau i aros yn uchel, gan ddangos bod Sir y Fflint yn lle
gwych i wneud busnes.
· Sicrhawyd 285 eiddo ar gyfer ecwiti a rennir ar gyfer prynwyr ty tro cyntaf.
· Sefydlwyd Panel Diogelu Corfforaethol gyda chyfrifoldebau clir i fynd i’r
afael â diogelu.
· Ymdriniwyd â 63% (2130) o ymholiadau ar y cyswllt cyntaf.
· Canlyniadau CA2 Sir y Fflint oedd yr uchaf yng Ngogledd Cymru yn 2016 ar 5ed
safle allan o 22 o Gynghorau yng Nghymru.
· Cynhyrchodd canlyniadau llwyddiannus ymyriadau hawliau lles incwm
budd-daliadau ychwanegol o £1,579,380 ar gyfer cartrefi Sir y Fflint.
· Lleihau digwyddiadau a’r effaith ar drosedd amgylcheddol gyda gwaith o
gyflwyno Deddf Diogelu Mannau Cyhoeddus a Rhybuddion Cosb Benodedig am daflu
sbwriel a gadael i gwn faeddu.
· Un ar ddeg o Drosglwyddiadau Asedau Cymunedol wedi’u cefnogi hyd yma, gan
gynnwys Canolfan Hamdden Treffynnon a Cambrian Aquatics yng Nghei Connah.
· Sicrhau cyllid ar gyfer Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref newydd i
wasanaethu’r Fflint a Chei Connah, a gwelliannauwedi’u gwneud i Ganolfannau
Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Sir.
· Cyfyngu’r defnydd o lety corfforaethol, gan arbed 31% ar gostau rhedeg..
Mae adnoddau yn parhau i fod yn heriol ond, er gwaethaf hyn, maer Cyngor wedi
gallu pennu cyllideb gytbwys ar gyfer 2017/18 drwy roi atebion Strategaeth
Ariannol y Tymor Canolig ar waith a chymryd ymagwedd risg gytbwys i reoli
pwysau costau ac amrywiadau yn ystod y flwyddyn.
Mae perfformiad ar draws y Cyngor yn parhau i fod yn gryf; bu i 66% o fesurau
fodloni neu ragori ar dargedau, a hanner yr holl ddangosyddion y gellid eu
mesur yn erbyn y llynedd yn parhaun sefydlog neu’n parhau i wella.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
“Er gwaethaf pwysau ariannol dwys a gostyngiadau mewn arian cenedlaethol, mae
Sir y Fflint wedi bod yn greadigol a llwyddiannus wrth gyflawni ei nodau am
flwyddyn arall. Mae rhai prosiectau wedi dod i ben, mae rhai yn barhaus ac yn
symud i mewn i’r flwyddyn nesaf, ond y peth pwysig yw bod Sir y Fflint yn
parhau i gyrraedd a rhagori ar ei dargedau ac yn parhau i ddangos gwelliant
blwyddyn ar ôl blwyddyn.”