Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant i ysgol Sir y Fflint
Published: 26/06/2017
Fe wnaeth Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint gefnogi disgyblion o Ysgol Maes
Hyfryd yn y Fflint yn ddiweddar, a gymerodd ran mewn prosiect Menter yr Ifanc.
Cafodd tîm y prosiect Tymhorau Hyfryd eu hariannun rhannol gan Gymunedau yn
Gyntaf, ac roedd yr ysgol yn llwyddiannus, gan ennill y Cyflwyniad Tîm Gorau yn
Rownd Derfynol Menter yr Ifanc Cymru yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth tîm menter o ddeg disgybl chweched dosbarth ddatblygu model busnes i
ddarparu cynhyrchion poblogaidd a gwasanaethau am bris rhesymol. Fe wnaed y
cyfan gan y myfyrwyr, mae eitemaun cynnwys cardiau ar gyfer bob achlysur a
chrefftau tymhorol ar gyfer digwyddiadau arbennig.
Mae eu cwsmeriaid yn fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr â’r ysgol. Eu nod oedd bod yn
dîm effeithiol a gweithio’n galed iawn i wneud y gorau y gallent fod.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
Ddatblygu Economaidd:
“Mae hwn yn llwyddiant anhygoel gan y myfyrwyr hyn. Rwy’n falch iawn eu bod
wedi ennill y wobr fawreddog hon ond, nid yn unig hynny, rwy’n falch iawn a
dylent hwythau hefyd fod yn falch iawn o beth maent wedi’i gyflawni.”
Dywedodd Beverley Moseley, swyddog gyda Chymunedau yn Gyntaf:
“Fe wnes i fynd i’r digwyddiad, ac fe roddodd y myfyrwyr gyflwyniad llawn hwyl,
a oedd yn rhoi digon o wybodaeth i’r gynulleidfa, a chafwyd llawer o
ganmoliaeth gan y beirniaid pan wnaethant ddarparur canlyniadau.
Mae Menter yr Ifanc yn elusen arweiniol y DU syn grymuso pobl ifanc i
gofleidio eu sgiliau personol a busnes, maen gweithion uniongyrchol gyda
phobl ifanc, eu hathrawon a busnesau. Mae ei rhaglenni cyflogadwyedd ymarferol
ac addysg ariannol wedi’u cyflwyno i sawl ysgol yn ardaloedd Cymunedau yn
Gyntaf yn Sir y Fflint.