Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgrifennydd Y Cabinet dros Addysg yn ymweld ag ysgol leol
Published: 29/06/2017
Bu i Kirsty Williams, Gweinidog dros Addysg Cymru ymweld ag Ysgol Bryn Deva yng
Nghei Connah heddiw (dydd Iau, 29 Mehefin).
Roedd hi yno i edrych ar y prosiect “Touching the Sku” a “Chlwb Seren Bach”
sydd wedi cael eu cydnabod fel arfer rhagorol gan Estyn yn eu hadroddiad yn
2016.
Disgyblion Ysgol Bryn Deva ywr plant cyntaf yng Nghymru i gymryd rhan mewn
prosiect i wella eu lefelau ffitrwydd, eu Cymraeg llafar a’u lefelau
cyrhaeddiad academaidd.
Bu i’r ysgol, gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Glyndwr, sefydlu prosiect o’r
enw “Touching the Sky.”. Roedd ffitrwydd y plant iau yn cael eu profi ac
wedyn, dros yr 8 mis canlynol, roeddynt yn cymryd rhan mewn gwahanol
weithgareddau i baratoi ar gyfer taith gerdded i fyny’r Wyddfa, ac mi wnaethant
hynny ar 26 Mai eleni.
Dywedodd Steve Thomas, Arweinydd Addysg Gorfforol Bryn Deva:
“Fel ysgol rydym eisiau hybu bywyd iach gan gynnwys gweithgareddau corfforol a
diet iach, i wella lles cyffredinol ein plant. Hyd yma mae wedi cael effaith
bositif iawn ar ein disgyblion.”
Mae’r ysgol hefyd wedi sefydlu ‘Clwb Seren Bach’ er mwyn gwella perfformiad
academaidd a chymdeithasol i ddisgyblion yn y Cyfnod Sylfaen sydd yn cael
trafferth ymdopi â gosodiad dosbarth llawn.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Cafodd Ysgol Bryn Deva ganlyniadau gwych yn eu harolygiad Estyn y llynedd am
eu gwaith partneriaeth, gofal, cefnogaeth a chanllaw ac mae astudiaeth achos
arfer orau wedi’i gyhoeddi gan Estyn. Mae’r ysgol yn rhan o Astudiaeth
Thematig Arfer Orau Estyn ar sut mae ysgolion yn ymgysylltu ag argymhellion yn
dilyn adroddiad Donaldson, gan arbenigo, fel yn achos Bryn Deva, mewn lles.
Rwy’n falch o allu dangos i’r Gweinidog bod un o’n hysgolion yn enghraifft dda
o hyrwyddo lles disgyblion fel rhan ganolog o’r cwricwlwm.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg Kirsty Williams:
“Bydd y cwricwlwm newydd yng Nghymru yn gosod materion iechyd a lles wrth
wraidd addysg – rydym eisiau i’n pobl ifanc adael yr ysgol yn unigolion iach
hyderus. Mae’r gwaith sydd yn digwydd yma ym Mryn Deva yn wych ac roedd hin
bleser siarad gyda phlant a staff.”