Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu Ysgolion Iach
Published: 14/07/2017
Cynhaliwyd digwyddiad Dathlu Cyrhaeddiad blynyddol Ysgolion Iach Sir y Fflint
yn ddiweddar yn Ysgol Gwynedd, Y Fflint.
Trefnir y digwyddiad ysbrydoledig hwn sy’n codi’r ysbryd gan y tîm Ysgolion
Iach, sy’n rhan o bortffolio Addysg ac Ieuenctid y Cyngor. Am yr ail flwyddyn
yn olynol, dathlwyd y digwyddiad ar y cyd â Chymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd
Sir y Fflint. Mae’r digwyddiad yn cydnabod cyraeddiadau ysgolion ym mhob agwedd
ar addysg iechyd a chwaraeon.
Roedd disgyblion o ysgolion ar draws y sir yn bresennol i dderbyn eu gwobrau
gan Is-Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Paul Cunningham yng nghwmni ei gonsort,
Mrs Joan Cunningham, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, Y Cynghorydd Ian
Roberts a Phrif Swyddog Dros Dro Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard.
Croesawodd Kate Fox-Parry, Cadeirydd Cymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y
Fflint a Phennaeth Ysgol Cae’r Nant, bawb i’r digwyddiad, a oedd yn cynnwys
perfformiad rhagorol gan Gôr Ysgol Croes Atti, arddangosiad sgipio gan Ysgol
Gwynedd a chyflwyniad gan Ysgol Gynradd Goffa Wood yn trafod yr hyn mae’n ei
olygu i fod yn “Ysgol Iach”, cyflwyniad o’r enw “Playful Futures” gan Ysgol
Mynydd Isa a chyflwyniad gan Ysgol Bryn Deva o’r enw “Touching the Sky” a
pherfformiad dawns ardderchog gan Ysgol Mountain Lane.
Cyflwynwyd Gwobrau Chwaraeon Tîm Sir y Fflint gan y Cynghorydd Cunningham, ac
fe ddywedodd:
“Mae heddiw’n amlygu’r gwaith ardderchog sy’n digwydd yn ein hysgolion ar draws
y Sir. Mae ystod eang o chwaraeon yn cael eu cynnwys, gan gynnwys rownderi,
hoci, pêl-droed, athletau, criced, rygbi a phêl-rwyd. Mae digwyddiadau fel hyn
yn amlygu’r ymrwymiad parhaus i’r Cynllun Ysgolion Iach – da iawn i bawb a
gymerodd ran.“
Yna, fe gyflwynodd Claire Homard Wobrau Ysgolion Iach i 12 ysgol.
Gwobrau mwyaf y bore oedd cyflwyniadau Gwobrau Ansawdd Genedlaethol Ysgolion
Iach. Llwyddodd dwy ysgol, sef Ysgol Gynradd Goffa Wood ac Ysgol Bryn Deva, i
gael achrediad a chafodd un ysgol ei hail-achredu ar gyfer 2016/17 – Ysgol
Mynydd Isa.
Wrth gyflwyno’r gwobrau, dywedodd Claire Homard:
“Y Wobr Ansawdd Genedlaethol yw anrhydedd uchaf y cynllun ac mae’n rhaid i
ysgolion gwblhau pum cam cyn iddynt fod yn gymwys ar gyfer y wobr - gall hyn
gymryd cyfartaledd o 10 mlynedd i’w gyflawni! Mae’r Wobr Ansawdd Genedlaethol
yn golygu datblygu ymagwedd ysgol gyfan tuag at faterion sy’n effeithio ar
iechyd a lles; maent yn cynnwys saith gwahanol thema iechyd, o Iechyd
Emosiynol, Bwyd a Ffitrwydd i’r Amgylchedd a Diogelwch.
“Llongyfarchiadau enfawr i bob ysgol ar gyflawniad o’r fath!”
Yn ogystal â gwobrau Ysgolion Iach, cyflwynwyd gwobrau arbennig, sef Gwobr y
Chwaraewr Mwyaf Addawol 2017, i William Norman o Ysgol Mountain Lane ac Evan
Withe o Ysgol Owen Jones a Gwobr y Chwaraewraig Mwyaf Addawol i Mayzee Davies o
Ysgol Gwynedd. Eleni, cyflwynwyd Gwobr Cyfraniad Eithriadol i Chwaraeon Sir y
Fflint i Mr Neil Williams am ei gyfraniad a’i ymroddiad i rygbi iau yn Sir y
Fflint dros yr 16 mlynedd diwethaf.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts:
“Mae hwn yn ddigwyddiad dathlu arbennig iawn. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod
cyraeddiadau chwaraeon plant a phobl ifanc ac yn dathlu athletwyr talentog ein
sir.
“Mae’r Cynllun Ysgolion Iach wedi bod yn rhedeg ers 15 mlynedd yn Sir y Fflint,
ac mae’n mynd o nerth i nerth. Mae’n hyfryd gweld y plant yn cymryd rhan ac mor
frwdfrydig dros y cynllun ysbrydoledig hwn.”
CANLYNIADAU LLAWN
Gwobrau Chwaraeon Tîm Sir y Fflint
1. Pencampwyr Rownderi 2017 – Ysgol Mountain Lane ac Ysgol Golftyn
2. Pencampwyr Hoci 2017 – Ysgol Gynradd Goffa Wood
3. Pencampwyr Athletau Dan Do Ysgolion Bach 2017 – Ysgol Gynradd Goffa Wood
4. Pencampwyr Athletau Dan Do Ysgolion Mawr 2017 - Ysgol Bryn Coch
5. Pencampwyr Criced Cyflym 2017 – Ysgol Owen Jones
6. Pencampwyr Rygbi 2017 – Ysgol Derwen
7. Pencampwyr Cynghrair Pêl-Rwyd 2017 - Ysgol Glanrafon
8. Pencampwyr Cwpan Pêl-Rwyd 2017 – Ysgol Maes y Felin
Pêl-Droed
1. Tarian Hardwick 2017 – Ysgol Gynradd Ewloe Green
2. Pencampwyr Ron Bishop 2017 – Ysgol Gynradd Ewloe Green
3. Pencampwyr Tom Roberts 2017 – Ysgol Gynradd Ewloe Green
4. Pencampwyr Elwyn Owen 2017 – Ysgol Bryn Coch
Gwobrau Ysgolion Iach
1. Uned Cyfeirio Disgyblion Troi Rownd
2. Uned Cyfeirio Disgyblion Y Ganolfan Ddysgu
3. Ysgol Gynradd Drury
4. Ysgol Gynradd Northop Hall
5. Ysgol Bro Carmel
6. Ysgol Bryn Pennant
7. Ysgol Gynradd Gatholig Santes Gwenffrewi
8. Ysgol yr Esgob TBC
9. Ysgol Glan Aber
10. Ysgol Gynradd Sandycroft
11. Yr Hybarch Edward Morgan
12. Sealand