Newyddion Budd-daliadau
Newyddion Budd-daliadau - Taliad Budd-dal Tai Gŵyl Banc yr Haf
Oherwydd gŵyl banc yr haf, dylai taliadau Budd-dal Tai gyrraedd cyfrifon banc dydd Gwener 23/08/2024.
Cysylltwch â ni ar ôl y dyddiad hwn os nad ydych wedi derbyn eich taliad.
Beth allwch chi ei hawlio?
Os ydych chi’n dilyn canllawiau’r Llywodraeth gan fod gennych symptomau’r Coronafeirws, byddwch yn cael eich cyfrif yn anaddas i weithio. Byddwch hefyd yn cael eich cyfrif yn anaddas i weithio os ydych chi’n aros gartref, neu’n ‘hunanynysu’ gan eich bod wedi bod mewn cyswllt â rhywun sydd â’r Coronafeirws.
Fe gewch dâl salwch statudol os ydych yn cael eich cyfrif yn anaddas i weithio ac mae gennych fel arfer hawl iddo – gwiriwch a oes gennych hawl i dâl salwch statudol; https://www.gov.uk/statutory-sick-pay
Os nad ydych chi’n gymwys i dderbyn tâl salwch, gallwch wneud cais un ai am Gredyd Cynhwysol neu’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar ei newydd wedd;
Pobl Hunangyflogedig
Ni allwch gael tâl salwch statudol os ydych yn hunangyflogedig.
Os oes rhaid i chi fod yn absennol o’r gwaith ac nad ydych yn cael eich talu tra ydych o’r gwaith, efallai y bydd gennych hawl i fudd-daliadau. Os ydych chi eisoes yn hawlio Budd-dal Tai neu Gymorth Treth y Cyngor, anfonwch e-bost at y swyddfa ar benefits@flintshire.gov.uk a byddwn yn ceisio cysylltu â chi o fewn 48 awr neu fel arall gallwch gysylltu â’r swyddfa ar 01352 704848, ond cofiwch y gallem fod yn derbyn nifer fawr o alwadau.
Credyd Cynhwysol – Sylfaen Isafswm Incwm
Os ydych yn hunangyflogedig, ni fydd y Sylfaen Isafswm Incwm yn berthnasol i chi ar ôl 06 Ebrill 2020. Bydd y newid hwn yn berthnasol i chi os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol a bydd yn para nes mae’r argyfwng Coronafeirws wedi pasio.
Nid oes raid i hawlwyr newydd Credyd Cynhwysol fynd i ganolfan waith i ddarparu tystiolaeth eu bod yn hunangyflogedig. Bydd y rhain yn cael eu trin fesul achos pan mae hawlwyr newydd yn cysylltu am Gredyd Cynhwysol.
Os ydych chi fel arfer yn gorfod gadael eich cartref i dalu eich rhent.
Os ydych chi eisoes yn derbyn Budd-dal Tai a’ch bod yn talu eich rhent yn uniongyrchol i’ch landlord wyneb yn wyneb, cysylltwch â’r swyddfa Budd-daliadau Tai trwy anfon e-bost at benefits@flintshire.gov.uk a gofynnwch am alwad yn ôl er mwyn i ni allu trafod sut y gallwn eich helpu yn ystod COVID-19.
Budd-dal Tai/Gostyngiad i Dreth y Cyngor
Os yw eich amgylchiadau wedi newid, cysylltwch â’r swyddfa fudd-daliadau trwy anfon e-bost at benefits@flintshire.gov.uk a byddwn yn ceisio cysylltu â chi o fewn 48 awr neu fel arall gallech gysylltu â’r swyddfa ar 01352 704848, ond cofiwch y gallem fod yn derbyn nifer fawr o alwadau.
Gostyngiad i Dreth y Cyngor
Os ydych chi’n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor ar eich eiddo a’ch bod ar incwm isel neu fod eich amgylchiadau wedi newid oherwydd COVID-19, efallai y byddwch yn gallu cael help â rhan o’ch bil Treth y Cyngor, neu’r bil cyfan.
Gallwch hefyd hawlio Gostyngiad i Dreth y Cyngor os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol.
Cyngor a chefnogaeth
Os ydych chi’n ei chael yn anodd gwneud hawliad am Fudd-dal Tai neu Ostyngiad i Dreth y Cyngor yn ystod y cyfnod anodd hwn, cysylltwch â’r Tîm Diwygio Lles trwy anfon e-bost at; WRRT@flintshire.gov.uk ac efallai y byddant yn gallu’ch cynorthwyo i gwblhau ffurflen gais.
Os ydych yn ei chael yn anodd cadw cofnod ar wariant a thalu biliau neu os oes arnoch angen help i ddeall pa gymorth sydd ar gael i chi, anfonwch e-bost at; WRRT@flintshire.gov.uk, neu ffonio’r swyddfa ar 01352 704848, ond cofiwch y gallem fod yn derbyn nifer fawr o alwadau.
Cynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE
Os ydych chi’n ddinesydd o’r Undeb Ewropeaidd (UE), Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu o’r Swistir sy’n byw yn Sir y Fflint, byddwch chi a’ch teulu’n gallu gwneud cais un ai am statws preswylio’n sefydlog neu statws cyn preswylio’n sefydlog. Bydd hyn yn golygu y gallwch barhau i fyw yn y DU ar ôl 31 Rhagfyr 2020. Y dyddiad cau i wneud cais am statws preswylio’n sefydlog neu statws cyn preswylio’n sefydlog yw 30 Mehefin 2021.
Pwy all wneud cais?
Gallwch weld pwy sydd angen gwneud cais am statws preswylio’n sefydlog neu statws cyn preswylio’n sefydlog ar GOV.UK.
Ni fydd unrhyw newid i hawliau presennol dan gyfraith yr UE tan ddiwedd y cyfnod cyflwyno ar 31 Rhagfyr 2020.
Cynnydd i Lwfans Tai Lleol
Ar 13 Ionawr 2020, cyhoeddodd Gweinidogion y bydd y Lwfans Tai Lleol yn cael ei gynyddu o fis Ebrill 2020, gan roi diwedd ar rewi cyfraddau’r lwfans.
Mae hyn yn golygu y bydd yr holl gyfraddau o 2019 i 2020, gan gynnwys y capiau cenedlaethol, yn cael eu cynyddu. Bydd y cyfraddau at 2020 i 2021 yn cael eu cyhoeddi ar ddiwrnod gwaith olaf mis Ionawr, yn unol â gweithdrefnau arferol, ac yn berthnasol o fis Ebrill 2020.
Cyplau oed cymysg
O 15 Mai 2019, ni fydd cyplau oed cymysg (lle mae un o’r cwpl o oed cymwys am Gredyd Pensiwn ac un heb gyrraedd yr oed hwnnw) yn gallu dewis a ydynt yn hawlio Credyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai oed pensiwn mwyach. Bydd yn rhaid i’r ddau gyrraedd oed i fod yn gymwys am Gredyd Pensiwn cyn y bydd ganddynt hawl i Gredyd Pensiwn a/neu Fudd-dal Tai oed pensiwn. Mae diffiniad cwpl oed cymysg yn cynnwys priodas amlbriod lle mae o leiaf un yn y briodas amlbriod wedi cyrraedd oed i fod yn gymwys am Gredyd Pensiwn ac o leiaf un heb. Mae cyplau oed cymysg sydd eisoes yn derbyn budd-dal yn cael eu gwarchod. Fodd bynnag, os ydych chi’n dod yn gwpl oed cymysg yn y dyfodol gan fod un ohonoch chi’n cyrraedd oed pensiwn, fe gysylltwn â chi ynglŷn â hyn.
Credyd Cynhwysol
Mae Credyd Cynhwysol wedi bod ar waith yn Sir y Fflint ers mis Ebrill 2014 yn darparu cymorth ariannol i deuluoedd incwm isel a fyddai fel arfer wedi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith. Fodd bynnag, ym mis Ebrill 2017, ehangwyd Credyd Cynhwysol i’r holl hawlwyr newydd, sy’n cael ei alw’n Gredyd Cynhwysol ‘gwasanaeth llawn’, ac mae wedi disodli’r chwe budd-dal yma:
Budd-dal Tai
Cymorth Incwm
Lwfans Ceisio Gwaith
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Credyd Treth Plant
Credyd Treth Gwaith
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, ewch i https://www.gov.uk/credyd-cynhwysol
Uchafswm Rhent y Sector Cymdeithasol – Newidiadau i Feini Prawf Maint 1 Ebrill 2017
Mae newidiadau wedi bod yn ddiweddar i Reoliadau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol sy’n darparu ar gyfer cynnwys ystafell wely ychwanegol wrth gyfrifo budd-dal tai ar gyfer eiddo sy’n cael ei rentu yn y sector rhentu preifat ac yn y sector rhentu cymdeithasol lle mae’r canlynol yn berthnasol:
- gofalwr neu grŵp o ofalwyr nad ydynt yn preswylio yn darparu gofal dros nos i blentyn anabl neu oedolyn anabl nad yw’n ddibynnydd
- nad yw cyplau’n gallu rhannu ystafell wely oherwydd eu hanableddau
Bydd amodau ar hawl iddynt yn dibynnu ar fodloni’r amodau i fod yn gymwys:
Pan mae plentyn anabl neu oedolyn anabl nad yw’n ddibynnydd angen ac yn cael gofal dros nos yn rheolaidd gan ofalwr (neu grŵp o ofalwyr) nad ydynt yn preswylio, bydd ystafell wely ychwanegol yn cael ei chaniatáu pan mae’r hawlydd yn gallu dangos:
- bod gofal wedi’i drefnu
- bod ystafell wely sbâr ar gael i’r gofalwr (neu dîm o ofalwyr)
- nad oes ystafell wely ychwanegol eisoes wedi’i darparu ar gyfer gofalwr (neu dîm o ofalwyr) dros nos nad ydynt yn preswylio ar yr un aelwyd
Ar ben hyn, rhaid i’r plentyn anabl neu’r oedolyn anabl nad yw’n ddibynnol fod yn derbyn:
- cyfradd ganol neu uwch o elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl
- Lwfans Gweini
- elfen byw bob dydd y Taliad Annibyniaeth Bersonol neu Daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
Cyplau sy’n methu rhannu ystafell wely oherwydd eu hanableddau
Wrth ystyried ystafell wely ychwanegol i gwpl sydd ag anableddau, bydd angen i’r Awdurdod lleol bennu bod o leiaf un aelod o’r cwpl yn methu â rhannu ystafell wely gyda’r aelod arall yn rhesymol oherwydd ei anabledd/hanabledd. Gallai canlyniad hyn ddibynnu ar amodau eraill i fod yn gymwys sy’n gorfod cael eu bodloni:
- Rhaid i un aelod o’r cwpl fod yn derbyn cyfradd ganol neu uwch elfen ofal y Lwfans Byw i’r Anabl, cyfradd uwch y Lwfans Gweini, elfen byw bob dydd y Taliad Annibyniaeth Bersonol neu Daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog.
Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys i gael lwfans am ystafell wely ychwanegol, cysylltwch â ni’n ysgrifenedig neu dros e-bost yn egluro’ch amgylchiadau.
Cap ar Fudd-daliadau
Yn 2016, cyflwynodd y Llywodraeth gyfyngiad ar faint o fudd-dal y gall aelwyd o oed gwaith ei dderbyn.
Ar 7 Tachwedd 2016, gosodwyd yr uchafswm Budd-daliadau ar, ac mae’n parhau ar:
- £384.62 yr wythnos (£20,000 y flwyddyn) i deulu neu gwpl
- £384.62 yr wythnos (£20,000 y flwyddyn) i berson sengl sydd â phlant yn byw gyda nhw
- £257.69 yr wythnos (£13,400 y flwyddyn) i berson sengl
Oeddech chi’n gwybod?
Gallai trigolion Sir y Fflint fod yn colli allan ar Fudd-dal Tai a hawl i Ostyngiad i Dreth y Cyngor am roi gwybod am newidiadau’n hwyr. Rhowch wybod am bob newid o fewn mis i’r adeg mae’n digwydd. Gallai methu â rhoi gwybod am newidiadau ar amser olygu bod gordaliad ar eich hawliad. Peidiwch ag oedi – rhowch wybod am newidiadau heddiw!
Y wybodaeth ddiweddaraf am Gredyd Cynhwysol
Os nad ydych chi’n hawlio Budd-dal Tai bellach gan eich bod yn hawlio Credyd Cynhwysol, sylwch y gallwch barhau i wneud cais am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn.
Rhaglen Llwglyd dros y Gwyliau
Mae’r rhaglen hon yn darparu pryd poeth i blant mewn cynlluniau chwarae bob dydd dros wyliau’r haf.
Bydd ymgyrch haf ‘Rhannu eich Cinio’ yn ein helpu i sicrhau bod cymaint â phosib’ o blant yn dychwelyd i’r ysgol wedi’u bwydo’n dda ac yn barod i ddysgu.
Cliciwch ar y ddolen isod am ragor o wybodaeth a’r ffurflenni