Chynllun Premiwm Treth y Cyngor
Eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn Sir y Fflint yn destun premiwm Treth y Cyngor.
Bydd premiwm Treth y Cyngor yn cael ei godi ar eiddo nad yw mewn defnydd fel unig neu brif breswylfa rhywun oherwydd ei fod wedi’i ddynodi’n ail gartref neu’n gartref gwag hirdymor.
• Mae Premiwm Treth y Cyngor o 75% yn ychwanegol at gyfradd safonol Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor (eiddo sydd wedi bod yn wag a heb fawr ddim dodrefn ynddo am 12 mis neu fwy).
• Mae Premiwm Treth y Cyngor o 100% yn ychwanegol at gyfradd safonol Treth y Cyngor ar ail gartrefi (eiddo nad yw’n unig gartref neu’n brif gartref person ac sydd wedi ei ddodrefnu’n helaeth).
Mae’r Cynllun Premiwm yn newid o 1 Ebrill 2025.
Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024, penderfynodd aelodau etholedig amrywio cyfraddau’r premiwm i ddod yn effeithiol o fis Ebrill 2025.
• O 1 Ebrill 2025 codir Premiwm Treth y Cyngor o 100% yn ychwanegol at gyfradd safonol Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor (eiddo sydd wedi bod yn wag a heb fawr ddim dodrefn ynddo am 12 mis neu fwy).
• O 1 Ebrill, ni fydd newid i’r premiwm a godir ar ail gartrefi (eiddo nad yw’n gartref neu’n brif gartref person ac sydd wedi’i ddodrefnu’n helaeth), a fydd yn parhau i fod yn 100% yn ychwanegol at gyfradd safonol Treth y Cyngor.
Newidiadau Pellach i’r Cynllun Premiwm o 1 Ebrill 2026
O fis Ebrill 2026, bydd unrhyw eiddo a oedd yn eiddo gwag hirdymor am gyfnod estynedig o amser yn destun lefel cynyddol o bremiwm sy’n cael ei bennu gan ba mor hir y bu’r eiddo’n wag. Bydd y cyfraddau premiwm newydd yn gymwys i eiddo gwag hirdymor fel yr isod, i’w hannog i’w defnyddio eto.
• 150% ar gyfer eiddo sy’n wag am 3 blynedd neu ragor
• 200% ar gyfer eiddo sy’n wag am 5 blynedd neu ragor
• 300% ar gyfer eiddo sy’n wag am 10 blynedd neu ragor
A oes unrhyw eithriadau i’r premiwm?
Mae rhai eithriadau lle nad oes rhaid i eiddo gwag hirdymor neu ail gartref dalu Premiwm Treth y Cyngor:
- Dosbarth 1
Anheddau wedi’u marchnata i’w gwerthu – mae’r eithriad hwn wedi’i gyfyngu i flwyddyn
- Dosbarth 2
Anheddau wedi’u marchnata i’w gosod – mae’r eithriad hwn wedi’i gyfyngu i flwyddyn
- Dosbarth 3
Anecsau sy’n ffurfio rhan o brif annedd, neu sy’n cael eu trin fel rhan o brif annedd
- Dosbarth 4
Anheddau a fyddai’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa pe na baent yn byw mewn llety’r lluoedd arfog
- Dosbarth 5
Lleiniau carafán ac angorfeydd cychod wedi’u meddiannu lle nad oes preswylydd yn byw yn y garafán neu'r cwch ar hyn o bryd, ond y bydd y garafán neu'r cwch yn unig neu'n brif breswylfa person y tro nesaf y cânt eu defnyddio.
- Dosbarth 6
Lle caiff preswylio gydol y flwyddyn ei wahardd gan amodau cynllunio atal preswylio am:
• gyfnod parhaus o hyd at o leiaf 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn; neu
• nodi fod yr annedd yn cael ei ddefnyddio fel tŷ gosod byrdymor yn unig; neu
• atal preswylio fel prif neu unig annedd yr unigolyn.”
- Dosbarth 7
Anheddau sy'n gysylltiedig â swyddi lle mae eiddo yn wag oherwydd bod yr unigolyn sy’n gysylltiedig â’r annedd bellach yn preswylio mewn annedd arall sy’n gysylltiedig â’u swydd (fel y diffinnir gan Reoliadau).
Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys am unrhyw un o’r eithriadau uchod, llenwch ein ffurflen ar-lein drwy glicio yma.
Beth os nad yw fy eiddo’n gymwys am eithriad?
Bydd gofyn i chi dalu’r Premiwm Treth Cyngor, fodd bynnag, mae gan y Cyngor gynlluniau ar waith i’ch helpu i ddod â’ch eiddo yn ôl i ddefnydd fel prif breswylfa. Os hoffech weithio gyda’r cyngor er mwyn gallu defnyddio’r eiddo’n llawn amser eto, mae’n bosibl y gallwn eich helpu.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Housing/Housing-Grants--Loans.aspx