Mae Cyngor Sir y Fflint eisiau i bawb sydd â hawl i hawlio budd-daliadau wneud cais amdanynt, ond atal y rhai sy'n dwyn oddi wrth y system. Mae twyll yn cael effaith ar faint o Dreth y Cyngor a threth incwm yr ydych yn ei dalu a faint o adnoddau sydd ar gael i'r gymuned.
- Mae budd-daliadau ar gyfer yr anghenus - nid y barus.
- Mae twyll budd-daliadau yn ddwyn gan bawb - y trethdalwyr a’r rhai nad ydynt yn talu treth. Mae'n ddwyn gan y rhai sydd â hawl i fudd-daliadau.
- Nid problem y Llywodraeth yn unig yw twyll budd-daliadau - mae'n broblem i bawb.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i warchod arian cyhoeddus drwy weithredu yn erbyn twyll budd-daliadau ac ni fydd unrhyw un sy'n twyllo’r system fudd-daliadau yn cael gwneud hyn heb gosb.
Beth yw Twyll Budd-daliadauTwyll budd-daliadau yw pan fydd pobl yn hawlio budd-dal gan gynnwys Budd-dal Tai a Chymorth Treth y Cyngor nad oes ganddynt hawl iddynt drwy roi gwybodaeth ffug neu beidio dweud wrthym pan fydd eu hamgylchiadau'n newid.
Mae pobl sy'n hawlio budd-dal yn fwriadol pan nad oes ganddynt hawl i’w cael yn cyflawni trosedd.
Bydd unrhyw berson sy'n gwneud datganiad ffug neu'n cynhyrchu dogfen ffug er mwyn cael budd-dal yn cyflawni trosedd sy'n dod gyda chosb. Bydd unrhyw berson sy'n methu â hysbysu'r Cyngor o newid yn eu hamgylchiadau er mwyn parhau i dderbyn budd-dal yn cyflawni trosedd sy’n dod gyda chosb.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn awyddus i sicrhau bod pobl sydd â hawl i fudd-daliadau yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt.
Ond, rydym yn ystyried Twyll Budd-daliadau yn drosedd ddifrifol, nid yn unig yn erbyn y Cyngor a'r Llywodraeth, ond hefyd yn erbyn y gymdeithas yn gyffredinol, ac am y rheswm hwn rydym wedi ymrwymo o ddifrif i fynd i'r afael â'r mater o dwyll Budd-daliadau mewn modd proffesiynol, gan weithio i ganllawiau a ddeddfwriaeth a osodwyd gan y Llywodraeth
Mae arian a gollwyd i dwyllwyr budd-daliadau yn arian sydd i fod i gael ei wario arnoch chi ac ar y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.
Mae twyll budd-dâl yn drosedd sy'n cynnwys ceisiadau ffug am Fudd-daliadau fel Budd-dal Tai a Chymhorthdal Incwm. Mae'n rhan fawr o droseddu cyfundrefnol heddiw.
Sut i roi gwybod am amheuon o dwyllOs ydych yn amau bod rhywun yn hawlio budd-dal trwy dwyll, rhowch wybod i ni. Mae'r holl wybodaeth yn cael ei chadw'n gwbl gyfrinachol ac nid oes rhaid i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad os nad ydych eisiau DWP. Nid oes rhaid i chi roi eich enw a bydd yr holl fanylion cyswllt yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol.
Pa wybodaeth sydd angen i chi ei rhoi?Mae'r rhestr isod yn dangos y math o wybodaeth rydym ei hangen er mwyn cychwyn ymchwiliad. Peidiwch â digalonni oherwydd nad ydych yn gwybod popeth ar y rhestr, ond rhowch cymaint o wybodaeth ag y gallwch.
Mae'r rhestr isod yn dangos y math o wybodaeth rydym ei hangen er mwyn cychwyn ymchwiliad. Peidiwch â digalonni oherwydd nad ydych yn gwybod popeth ar y rhestr, ond rhowch cymaint o wybodaeth ag y gallwch.
- Enw(au) a chyfeiriad(au) yr unigolyn/unigolion dan sylw.
- Y math o dwyll budd-dal sy’n cael ei gyflawni.
- Disgrifiad(au) o’r bobl dan sylw.
- Cerbydau.
Gwybodaeth Ychwanegol...
Os yw rhywun yn gweithio ac yn hawlio:
- Enw a chyfeiriad y cyflogwr.
- Ers pryd mae’r unigolyn wedi gweithio yno?
- Math o waith a wneir? - Sawl awr? - Lefel enillion?
- Yr amser y mae'r unigolyn yn ei weithio (cychwyn a gorffen).
- A yw’n gwisgo dillad gwaith - ddisgrifiad.
- A yw’n defnyddio cerbyd cwmni?
- s nad yw rhywun yn datgan bod partner yn preswylio:
- Enw a disgrifiad o'r partner.
Oed yn fras.
- Ers pryd mae’r partner yn preswylio?
- Os yw’r partner yn gweithio, enw llawn a chyfeiriad eu cyflogwr, a’r amseroedd y maent yn gweithio. Unrhyw ddillad gwaith sy’n cael eu gwisgo / a oes ganddynt gerbyd cwmni?
- Os yw'r partner hefyd yn hawlio budd-daliadau, a ydych yn gwybod o ba gyfeiriad a pha fudd-daliadau yn cael eu hawlio?
- Os nad yw rhywun yn byw mewn cyfeiriad:
- Ers pryd mae'r person ddim yn preswylio yno?
- Ym mha gyfeiriad y mae'r person yn byw?
- Enw'r deiliaid tŷ yno.
- A yw’r holl eiddo wedi’i symud o'r cyfeiriad?
- A oes unrhyw un yn ymweld i nôl post yn y cyfeiriad? - Pryd a pha mor aml?
- Os nad yw rhywun yn datgan cyfalaf eraill sydd ganddo:
- Math o gyfalaf? Cyfrifon banc/tŷ/ymddiriedolaeth uned/stoc/cyfranddaliadau/bondiau premiwm ac ati
- Pa fanc(iau)?
- Cyfeiriad yr eiddo y mae’n berchen arno/arnynt?
- Os yw’n berchen ar eiddo arall, a yw'n ei rentu allan? - i bwy? - Ers pryd y mae wedi cael ei osod ar rent? - Enwau unrhyw denant arall? - Swm y rhent a godir?
- Ers pryd y maent yn berchen ar yr eiddo?
Os nad yw rhywun yn datgan incwm arall:
- Pa fath o incwm ydyw?
- Faint? - Ers pryd y maent wedi bod yn ei gael? - Gan bwy?
Os nad yw rhywun yn datgan bod oedolion eraill (nad yw’n bartner iddynt) yn byw gyda hwy:
- Enw(au) a disgrifiadau.
- Ers pryd y maent wedi bod yn byw yno?
- Ydych chi'n gwybod eu cyfeiriad blaenorol?
- Gweithio neu'n hawlio budd-daliadau? - Manylion llawn y cyflogwr.
- Os yn gweithio, yr amserau y maent yn gweithio?
- A ydynt yn talu rhent i aros yno?
LandlordiaidWeithiau gall landlordiaid fod ynghlwm â thwyll. Os ydych yn gwybod neu'n amau bod landlord ynghlwm â gweithgarwch twyllodrus, rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch yn ymwneud â'r eiddo, y tenantiaid a'r amgylchiadau dan sylw.
CyflogwyrWeithiau, gall gyflogwyr gydgynllwynio gyda gweithwyr i’w helpu i dwyllo’r system fudd-daliadau. Rhowch cymaint o dystiolaeth â phosibl i ni os ydych yn ymwybodol bod hyn yn digwydd. Enw'r cyflogwr, cyfeiriad, eiddo a ddefnyddir, cerbydau a ddefnyddir, cymaint o enwau gweithwyr ag y gallwch, cyflenwyr neu gwsmeriaid y mae gweithwyr yn delio â nhw yn rheolaidd.
CerbydauDarparwch wneuthuriad (e.e. Ford), model (e.e. Mondeo), lliw a rhif cofrestru’r cerbyd(au) sy’n cael eu defnyddio. Os oes logos, marciau neu fanylion busnes ar y cerbyd, nodwch y rhain hefyd.
Gall fod yn Dreisgar
Cadarnhewch a yw unrhyw unigolyn sydd ynghlwm â'r dwyll yn dreisgar. Os ydynt, sut ydych chi’n gwybod hyn? Cofiwch, y mwyaf o fanylion y gallwch eu darparu am y twyll honedig, y mwyaf tebygol ydyw y byddwn yn gallu cychwyn ymchwiliad.