Alert Section

Data Premiwm Treth y Cyngor


Mae’r Cyngor yn codi premiwm ar eiddo Treth y Cyngor o dan bwerau a fanylwyd yn y Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ar y cyfraddau canlynol o 1 Ebrill 2023: 

• 75% o eiddo Gwag Hirdymor (rhai sy’n wag am 12 mis neu fwy), a 
• 100% ar gyfer Ail Gartrefi (cartrefi sy’n cael eu defnyddio yn achlysurol).

PremiumDataTableCym

Ar gyfer 2023/24, roedd y tâl premiwm ychwanegol ar eiddo gwag hirdymor yn £639,843. Ar gyfer 2023/24, roedd y tâl premiwm ychwanegol a godwyd ar ail gartrefi yn £288,958.

Rydym yn defnyddio refeniw o’r Premiwm Treth y Cyngor i gefnogi’r ystod lawn o wasanaethau rydym ni’n eu darparu, ac eithrio gwasanaethau Tai Cyngor a ariennir gan denantiaid y cyngor drwy eu rhent.  Rydym hefyd yn defnyddio’r refeniw i atal digartrefedd, trechu tlodi a chyllid i gefnogi prosiectau sy’n sicrhau bod ein cymunedau yn gynaliadwy.