Bydd aelod o’r Tîm Therapi Galwedigaethol, wedi eu cyflogi gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, yn cyflawni asesiadau ac yn argymell y math o addasiadau a fyddai o gymorth i chi, eich teulu neu'ch gofalwyr yn eich bywyd bob dydd.
Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fel rhan o’r asesiad, bydd agweddau eraill yn cael eu trafod a allai arwain at gyflawni canlyniadau, gan gynnwys newidiadau posib i ffordd o fyw, defnyddio technegau ac / neu gyfarpar gwahanol, neu pan fyddai gwaith yn sylweddol, rhoddir ystyriaeth i fanteision symud i rywle mwy addas, o bosib.
Yn seiliedig ar eich sefyllfa, bydd aelod o’r tîm Therapi Galwedigaethol yn ystyried a ddylech wneud cais am Grant Cyfleusterau I'r Anabl. Os felly, bydd Ffurflen Argymell Addasiad ar gyfer Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn cael ei chwblhau gan aelod o’r tîm Therapi Galwedigaethol yn ystod eu hymweliad gan gadarnhau pa addasiadau fydd angen eu gwneud i’r eiddo, lle bo hynny yn bosib.
Os ydych yn derbyn budd-daliadau wedi eu pasbortio, neu os yw'r cais ar gyfer plentyn, bydd angen i chi arwyddo'r Ffurflen Argymell Addasiad ar gyfer Grant Cyfleusterau I'r Anabl yn ystod yr ymweliad er mwyn cadarnhau eich bod yn hapus i wneud y cais Grant Cyfleusterau I'r Anabl.
Os nad ydych yn derbyn budd-dal wedi ei basbortio, neu os nad yw'r cais ar gyfer plentyn, bydd aelod o'r tîm Therapi Galwedigaethol yn gofyn i chi a ydych yn ymgeisydd sengl ac a ydych wedi cael asesiad ariannol yn ddiweddar gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Os felly, bydd aelod o’r tîm Therapi Galwedigaethol yn cael eich manylion incwm a chyfalaf gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn darparu'r rhain i ni, gyda’ch Ffurflen Argymell Addasiad ar gyfer Grant Cyfleusterau i'r Anabl.
Os nad ydych wedi cael asesiad ariannol yn ddiweddar, bydd aelod o’r tîm Therapi Galwedigaethol yn darparu ffurflen Prawf Modd i chi ei chwblhau er mwyn cadarnhau eich incwm / cyfalaf, ac incwm / cyfalaf eich partner os oes gennych chi un. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i gyfrifo a fydd angen i chi gyfrannu at gost y gwaith ai peidio.
Os ydych yn rhentu eich eiddo yn breifat, bydd angen i'ch landlord gwblhau ffurflen ganiatâd landlordiaid i gytuno i'r addasiadau ar eu heiddo. Bydd aelod o’r tîm Therapi Galwedigaethol yn rhoi'r ffurflen hon i chi.
Rhaid dychwelyd y ffurflen Prawf Modd, tystiolaeth o’ch holl incwm/ cyfalaf, preswyliad, a ffurflen caniatâd landlordiaid os yn berthnasol o fewn mis i’r dyddiad y bydd aelod o’r tîm Therapi Galwedigaethol wedi ymweld â chi:
- E-bost– Disabled.facilities.grants@flintshire.gov.uk
- Ymweld – Eich Swyddfa ‘Sir y Fflint yn Cysylltu’ lleol
- Post - Grant Cyfleusterau I'r Anabl, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NA.
Am gymorth pellach, ffoniwch yr Addasiadau i'r Anabl ar 01372 703420.
Unwaith y byddwn wedi gwneud y prawf modd, byddwn yn eich ffonio i adael i chi wybod os bydd angen i chi wneud cyfraniad tuag at gost y gwaith. Os ydych yn hapus i dalu’r cyfraniad ac am symud ymlaen â’r cais, byddwn yn anfon llythyr cadarnhau atoch yn ogystal â datganiad y bydd angen i chi ei arwyddo a’i ddychwelyd atom o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y llythyr:
- E-bost– Disabled.facilities.grants@flintshire.gov.uk
- Ymweld – Eich Swyddfa ‘Sir y Fflint yn Cysylltu' lleol
- Post - Grant Cyfleusterau I'r Anabl, Adain Budd-daliadau, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NA.
Os na fyddwn yn derbyn y ffurflen prawf modd wedi ei chwblhau yn ogystal â’r dystiolaeth berthnasol a’r ffurflen gytundeb landlordiaid, bydd eich cais yn cael ei dynnu yn ôl.