Bydd eich data personol a gesglir amdanoch chi’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â Gostyngiadau Budd-dal Tai a Threth y Cyngor. Defnyddir eich data ar gyfer y dibenion canlynol:
- sicrhau eich bod yn derbyn y swm cywir o Fudd-dal Tai
- sicrhau eich bod yn derbyn y swm cywir o Ostyngiad Treth y Cyngor lleol
- sicrhau eich bod yn derbyn unrhyw ad-daliadau neu daliadau eraill y mae gennych chi hawl iddynt
- casglu unrhyw Fudd-dal Tai a/neu ostyngiad Treth y Cyngor a or dalwyd
- asesu unrhyw Daliadau Disgresiwn at Gostau Tai neu ostyngiad Treth y Cyngor y gallem eu talu i chi o bosibl
- atal a chanfod twyll a chamgymeriadau o fewn y cynlluniau hynny neu feysydd eraill
Fe allwn ni wneud hyn am fod deddfwriaeth yn dweud bod yn rhaid i ni, ac mae’r gwaith o brosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol. Mae yna sawl rheoliad gwahanol sydd yn ymwneud â gweinyddu Budd-dal Tai a gostyngiad Treth y Cyngor lleol. Mae’r prif reolau i’w gweld yn:
Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992
Deddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992
Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998
Rheoliadau Budd-dal Tai 2006 (fel y’i diwygiwyd)
Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013
Nid yw’r rhestr hon yn un gyflawn.
Gall Cyngor Sir y Fflint basio’r wybodaeth at asiantaethau neu sefydliadau eraill fel yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau EF, fel y caniateir gan y gyfraith.
Efallai y bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwirio’r wybodaeth rydych wedi'i darparu, neu wybodaeth amdanoch chi y mae rhywun arall wedi’i darparu, â gwybodaeth arall sydd gennym. Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth amdanoch gan drydydd parti, neu’n rhoi gwybodaeth iddyn nhw er mwyn:
Bydd gwybodaeth a dderbynnir gan Gyllid a Thollau EF neu’r Adran Gwaith a Phensiynau sy’n nodi newid mewn amgylchiadau yn gallu arwain at y system yn newid eich buddion yn awtomatig.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data am 7 mlynedd o’r dyddiad y daw’ch cais i ben neu y caiff ei derfynu.
Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol ac am eich hawliau chi, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan:
http://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/ContactUs/Privacy-Notice.aspx