Mae yna 34 Cyngor Tref a Chymuned ar draws Sir y Fflint. Maent yn darparu neu’n cynnal amrywiaeth o wasanaethau cymunedol a chyfleustodau lleol gan gynnwys neuaddau pentref, caeau chwarae a mannau agored, seddi cyhoeddus, llochesi bws, goleuadau stryd a llwybrau troed. Mewn rhai achosion gallant gyfrannu at y gost o redeg cyfleusterau lleol mwy megis canolfannau hamdden a llyfrgelloedd.
Mae’ch Cyngor Tref neu Gymuned yn derbyn mwyafrif ei arian trwy gyfran o’r Dreth Cyngor sy’n cael ei dalu gan breswylwyr sy’n byw o fewn ei ffiniau. Gelwir hyn yn ‘praesept' Treth y Cyngor ac mae’n seiliedig ar fand prisiad eich eiddo.
Mae swm y ‘praesept’ y mae eich Cyngor Tref neu Gymuned yn ei godi i’w weld ar eich bil cyffredinol Treth y Cyngor. Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu’r holl dreth sy’n ddyledus ac yna'n talu cyfran i'r Cyngor Tref neu Gymuned.
Mae’r Cyngor Sir yn cyhoeddi rhestr o braeseptau Cynghorau Tref a Chymuned bob blwyddyn.