Cyfansoddiad Gwleidyddol y Cyngor a mynediad i gyfarfodydd y Cyngor
Mae gennym 70 o Gynghorwyr sydd wedi’u hethol i gynrychioli 57 o adrannau etholiadol (wardiau). Dewisir Cynghorwyr gan bobl leol mewn etholiadau a gynhelir bob pedair blynedd.
Cynghorwyr sy’n gyfrifol am sicrhau fod y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor yn diwallu anghenion preswylwyr a’r rheiny sy’n gweithio yn y sir. Maent yn gwneud hyn drwy osod polisïau a strategaethau cyffredinol i’r Cyngor a thrwy fonitro’r ffordd y caiff y rhain eu gweithredu.
Mae’r Cyngor llawn o 70 o Gynghorwyr yn gyfrifol am gytuno ar y prif bolisïau a blaenoriaethau, gan gynnwys cyllideb y Cyngor.
Mae gan Gynghorwyr ddyletswydd i’r sir gyfan, ond mae ganddynt ddyletswydd arbennig i bobl sy’n byw yn y ward y cawsant eu hethol i’w chynrychioli, gan gynnwys pobl sydd heb bleidleisio iddynt.
Cyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor ar hyn o bryd:
- Llafur: 34
- Cynghrair Annibynol: 10
- Ceidwadwyr: 7
- Democratiaid Rhyddfrydol: 6
- Annibynol Newydd: 6
- Annibynol: 6
- Vacancy: 1
Mynediad Cyhoeddus i Gyfarfodydd
Mae cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a’r Pwyllgorau i gyd ar agor i’r cyhoedd ac eithrio pan fydd materion sydd wedi’u heithrio neu gyfrinachol yn cael eu trafod. Mae’r papurau’n cael eu gosod ar ein gwefan cyn bob cyfarfod a gallwch eu darllen, cyn belled a’u bod yn ddogfennau cyhoeddus.
Fel arall, gallwch glicio ar ein Calendr Cyfarfodydd i weld amserlen y cyfarfodydd sydd ar ddod. Drwy glicio ar y hyperddolenni byddwch hefyd yn cael eich cyfeirio at y gwaith papur a’r wybodaeth gysylltiedig ar gyfer y Pwyllgor hwnnw.